Bellach, rydan ni’n gwybod mai Ysgrifennydd Addysg Lloegr, nid y corff arholiadau Ofqual, a ddewisodd ganslo arholiadau TGAU a Lefel ‘A’ eleni a defnyddio algorithm yn eu lle.

A dweud y gwir, mi wyddon ni fod Gavin Williamson wedi mynd yn groes i farn yr arbenigwyr a gwrthod eu dau ddewis cynta’. Gavin Williamson neu ei feistri.

Bellach, ar wahân i fethu â deall sut y mae’r dyn yn parhau yn ei swydd, mae yna nifer o gwestiynau mawr eraill i’w gofyn: yn benna’, pam fod Cymru wedi dilyn y drefn o ochr arall Clawdd Offa?

A dyma ychydig rhagor: Beth oedd barn y corff Cymwysterau Cymru neu’r cwmni arholi CBAC, er enghraifft? Pwy’n union wnaeth y penderfyniad yng Nghymru? Ai’r cynghorwyr neu’r gweinidog, Kirsty Williams? Ac ar ba sail? Ai dim ond i ddilyn Lloegr?

Mae’n ymddangos mai ystyfnigrwydd a chred wirion mewn technoleg a data oedd yn gyfrifol am y penderfyniad yn Lloegr ac mae’n ddigon bosib mai Boris Johnson aka Dominic Cummings oedd wrth ei wraidd.

Y cwestiwn yng Nghymru ydi a wnaeth y Llywodraeth ddilyn yn slafaidd, neu a wnaethon nhw ystyried eu tystiolaeth eu hunain a dod i benderfyniad annibynnol? Os y cynta’, mi fuon nhw’n esgeulus; os yr ail, mi wnaethon nhwthau gamgymeriad rhyfedd.

Mae’n bwysig dechrau ymchwilio o ddifri i rai o’r penderfyniadau a’r datblygiadau yma, nid dim ond i benderfynu pwy oedd ar fai a pham, ond hefyd i wneud yn siŵr y bydd ateb gwell y flwyddyn nesa’.

Os dewis cynta’r cyrff cymwysterau oedd cynnal arholiadau eleni; yn sicr, mi ddylai hynny fod yn ddewis cynta’ yn 2021.

Mae’n bosib iawn y bydd rhaid addasu’r arholiadau i gydnabod na fydd pob ysgol wedi llwyddo i gyflawni pob elfen o’r maes llafur – oherwydd y misoedd coll – ac efallai y bydd modd cynnwys rhagor o elfennau o waith cwrs hefyd.

Ond, ar ôl y llanast eleni, yn y tymor byr, mae’n ymddangos nad oes yna ateb tecach.