Mae Llywodraeth Cymru bellach yn wynebu dewis anodd… heblaw nad oes ganddi fawr o ddewis mewn gwirionedd.

Hen beth ydi dweud bod pandemig y feirws corona yn dangos yn gliriach dueddiadau sy’n bod eisoes; un o’r rheiny ydi gwendid datganoli.

O ddechrau Gorffennaf, mi fydd Lloegr bron yn rhydd o gyfyngiadau o unrhyw werth ac mi fydd cadw pellter o ddau fetr wedi mynd yn un. Fydd gan Gymru fawr o ddewis ond dilyn.

Efallai y bydd yna ryw oedi o ychydig ddyddiau i geisio gosod rhyw fymryn o stamp ond mae’n anodd gweld sut y gallai Cymru fod yn wirioneddol wahanol.

Fyddai cadw cyfyngiadau caeth yng Nghymru ddim yn atal pobol rhag llifo yma; nhw’n cadw un set o reolau a ninnau, frodorion, un arall.

Y gwir ydi, wrth gwrs, fod hyn yn wir am bob math o feysydd eraill; efo ffin hir agored, mae hi’n anodd iawn i Gymru ddilyn trywydd cwbl wahanol i Loegr.

Mae torri ar wario cyhoeddus yn Lloegr yn arwain at dorri ar wario cyhoeddus yng Nghymru, mae newidiadau polisi yn Lloegr yn rhoi pwysau ar Gymru i wneud yr un peth.

Hyd yn oed o gael annibyniaeth, fyddai hi ddim yn hawdd, gan fod cymaint o symud yn ôl ac ymlaen, yn gymdeithasol a masnachol.

Ond mae yna duedd arall sy’n dod yn amlwg trwy gyfrwng y pandemig.

Yr argraff ydi mai ychydig iawn o drafod ystyrlon sydd wedi bod rhwng San Steffan a’r gwledydd eraill ynglŷn â’r cyfyngiadau; mae Lloegr yn dweud, a dyna ni.

Roedd yna arwyddion eisoes mai dyna’r agwedd yn Llundain – er enghraifft tros defniadau gadael Ewrop – ac mae hynny’n debyg o gynyddu ymhellach dan Boris Johnson a Dominic Cummings.

Pan ddaw Brexit, mi fydd yn rhaid i ni fod yn barod am ragor o hyn; penderfyniadau’n cael eu gwneud yn Lloegr sydd fwy neu lai’n gorfodi Cymru i ddilyn.

A’r peryg yn y pen draw ydi fod yna fwriad i danseilio datganoli ei hun; nid trwy ddweud hynny’n agored ond trwy ei wanhau a lleihau ei ystyr.