Dylan Iorwerth yn rhoi barn ar storm sylwadau’r canwr…

Yn y dyddiau pan oedd ymgyrchu gwleidyddol yn golygu mwy na thrydar, dw i’n cofio mynd i rali fawr gwrth-apartheid yn Llundain.

Un o’r siaradwyr oedd yr Esgob Trevor Huddleston, un o arwyr gwyn y frwydr yn erbyn cyfundrefn ffiaidd De Affrica. Ond cyn diwedd ei araith, mi gafodd ei fwian am fod yn hiliol.

Roedd y sioc ar ei wyneb yn amlwg ac mi ymddiheurodd yn syth, am alw gwleidyddion y dydd yn ‘pygmies’ o’u cymharu â’r dewrion croenddu.

Fel y canwr Cymraeg Meic Stevens mi ddywedodd rhywbeth heb sylweddoli sut y byddai’n cael ei gymryd ond, fel yn achos Meic Stevens hefyd, doedd hi ddim yn deg galw’r dyn ei hun yn hiliol.

Fel y rhan fwya’ o’r bobol sydd wedi mynegi barn am sylwadau’r canwr ac fel y rhan fwya’ o drefnyddion y gwyliau sydd wedi ei wahardd, do’n i ddim yng Nghaernarfon i’w glywed.

O weld adroddiadau o’r geiriau, hyd yn oed a derbyn eu bod yn anffodus, ar ysgol casineb y dyddiau yma, maen nhw ar ris isel iawn.

Ond gyrfa Meic Stevens sy’n dangos yn fwy na dim nad ydi o’n hiliol. Mae o wedi chwarae efo cerddorion o bob cefndir a hil; hebddo fo a Geraint Jarman, fydden ni’r Cymry Cymraeg cyfforddus yn gwybod fawr ddim am gerddoriaeth ac etifeddiaeth Tiger Bay.

Yr un gân sy’n dangos hynny yn fwy na dim ydi’r gân i Victor Parker, emyn o fawl i gerddor croenddu oedd yn cynrychioli diwylliant amrywiol yr hen ddociau.

Sylw amwys, efallai ychydig yn hiliol, ie. Dyn hiliol yn ei hanfod, na.