Dylan Iorwerth yn dadlau bod eisio cymryd mantais o restr ryngwladol bwysig

Mi ddylai Llywodraeth Cymru fod yn dechrau rŵan ar ymgyrch i gael statws treftadaeth byd i Gynghanedd a Cherdd Dant ac, efallai, yr Eisteddfod hefyd.

Ddechrau’r mis, roedd yna lot o sylw wrth i gerddoriaeth reggae gael ei chynnwys ar restr UNESCO o enghreifftiau rhyngwladol i Dreftadaeth Ddiwylliannol Na Allwch ei Chyffwrdd – mi ddylai ein diwylliant ninnau gael ei gynnwys.

Mae yna gannoedd o enghreifftiau o bob cornel o’r byd eisoes wedi eu cynnwys ar y rhestr sy’n cyfateb i Safleoedd Treftadaeth Byd ym mae adeiladau, safleoedd hanesyddol a mannau naturiol eithriadol.

O gymharu â’r rhestr honno – sy’n cynnwys rhai o gestyll Edward I, Pontcysyllte a thirwedd ddiwydiannol Blaenafon – ychydig sy’n gwybod am y rhestr Dreftadaeth Ddiwylliannol ond mae rhestru reggae wedi cael sylw tros y byd.

Mae’r trysorau sydd eisoes ar y rhestr yn cynnwys mathau o ddawnsio, gwyliau, arferion, crefftau a hyd yn oed gredoau; rhai sydd dan fygythiad a rhai, fel reggae, sy’n fyw ac iach.

Mae’n hollol amlwg y dylai cynghanedd, cerdd dant a’r Eisteddfod fod yn eu plith, efo’i gilydd neu ar wahân.

Maen nhw i gyd yn enghreifftiau rhyfeddol o grefft ac arfer diwylliannol a ddatblygodd mewn lle arbennig dan amgylchiadau cymdeithasol arbennig. Maen nhw’n haeddu’r gair unigryw.

Yr unig broblem ydi mai trwy Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd rhaid gwneud y cais ac mi fydd rhaid perswadio honno i ddechrau.

Efallai y bydd hi’n help wedyn sôn am ddylanwad  cynghanedd ar bob math o feirdd  o Dylan Thomas i Gerard Manley Hopkins. Er nad oes angen y fath gyfiawnhad, mae’n arwydd o rym ac apêl cynghanedd.

Ond ni ddylai ddechrau ac arwain yr ymgyrch; ein mudiadau diwylliannol ni a’n Llywodraeth ni. Ac mi ddylen ni ddechrau ar unwaith.