Nico Dafydd
Wrth ddod i derfyn traethawd hir, tymhestlog ar ddarlunio’r ffilm Gymraeg, ac yng ngolau cyfres ddrama newydd S4C, mae cyfle i mi drafod y genedl yn ein celfyddydau gweledol.

Trafododd Casi Wyn y ‘theatr genedlaethol’ yn ei blog ar golwg360 yn ddiweddar, gan godi dau gwestiwn mawr; beth yw theatr genedlaethol, a beth yw ei bwrpas.

Mewn ffordd, yr un cwestiynau y gellir eu codi yng nghyd-destun sinema genedlaethol a’r sianel deledu genedlaethol.

Enwau cyfarwydd

Mae’n ddiddorol i mi ddod ar draws yr un enwau wrth drafod Y Gwyll a oedd yn amlwg wrth ymchwilio i hanes ffilmiau Cymru yng nghyfnod datganoli.

Roedd Ed Thomas a Marc Evans yn ganolog i symudiad newydd o ffilmiau yn 1997, gyda House of America wedi ei sgriptio a’i gyfarwyddo gan y naill a’r llall yn cael ei ystyried ar y pryd yn gyfle i ddarlunio Cymru mewn ffordd newydd; defnyddio hen ddelweddau Cymreig – y pyllau glo – ond mewn ffordd newydd, bron yn ddychanol.

Rhyddhawyd Twin Town yn yr un flwyddyn gyda’i gorau meibion, ei rygbi a’r de diwydiannol.

Ond darluniau adweithiol oedd y rhain. Dicter dros ystrydeb Gymreig, a defnyddio modd tafod mewn boch i geisio symud ymlaen. Rhyw hyder ffug oedd y cyfnod hwn, ond roedd y syniad o genedlaetholdeb yn amlwg ym meddyliau’r gwneuthurwyr.

Gwaith y Gwyll

Ymlaen i 2013, â chyfres Y Gwyll yn ymddangos ar S4C gyda Marc Evans ac Ed Thomas yn amlwg iawn yn y cynhyrchu. Wedi methiant Pen Talar i fod yn unrhyw beth ond ystrydeb ddiflas ynddo’i hun, roedd gweld hyder Y Gwyll yn ei Gymreictod yn galonogol.

Nid darlunio’r gorffennol sydd yma ond deall esthetig y Gymru fodern fel y mae, gan ychwanegu ysgrifennu crefftus i greu stori. Wedi ei leoli yn Aberystwyth, mae’n falch o’r adeiladau, o’r bryniau, y golygfeydd, ac yn eu clymu’n rhan o’r stori.

A beth yw pwysigrwydd hyn? Roeddwn i, fel nifer, yn siomedig nad y fersiwn Gymraeg o’r gyfres ond yn hytrach y fersiwn Saesneg, Hinterland fydd yn cael ei dangos gan sianel DR Denmark.

Ond, wrth ystyried y delweddau Cymreig sydd yn ganolog i awyrgylch a stori’r gyfres, gall wneud dim ond cryfhau ein celfyddydau gweledol.

Mewn ffordd, mae’r gyfres yn gweithredu’r hyn y mae ffilm wedi ei wneud yn draddodiadol, ac i gynulleidfa eang, fyd-eang. Mae sinema genedlaethol, wedi’r cyfan, yn ddrych ar y wlad ac yn ddarlun i’r byd.

16 mlynedd wedi datganoli llywodraeth i Fae Caerdydd, mae gan Gymru o’r diwedd ddarlun o’i hun i’w ddarlledu gyda balchder, heb orfod camu trwy fwd budr ein hunaniaeth, ond trwy ddangos hyder yn ein gwlad a’n diwylliant a’i glymu gyda chrefft gref. Ai dyma yw ystyr a phwrpas y ‘genedlaethol’?

Gallwch ddarllen mwy gan Nico ar ei flog personol, neu ei ddilyn ar Twitter.