Hanner can mlynedd union i’r diwrnod ers i Alan Jones chwarae ei unig gêm dros Loegr, mae cyn-gricedwr Morgannwg wedi derbyn y cap swyddogol a gafodd ei dynnu oddi arno ddwy flynedd ar ôl ei unig gêm dros Loegr.

Yn 1968/9 – ar ôl y tymor pan gipiodd Morgannwg ail fuddugoliaeth dros Awstralia o fewn pum mlynedd – roedd y byd criced yn ymdopi ag un o’i helyntion mwyaf erioed. Roedd Basil D’Oliveira, y gŵr croenddu o Dde Affrica, wedi’i ddewis yng ngharfan Lloegr i deithio i wlad ei febyd. O ganlyniad, cafodd y daith ei chanslo gan Lywodraeth De Affrica, gweithred a dynnodd y byd criced i mewn i aparteid.

Cafodd taith De Affrica i Loegr ei chanslo yn 1970 wedyn ar gais James Callaghan, yr Ysgrifennydd Cartref Llafur ar y pryd, a hynny am resymau diogelwch. Fe fu protestiadau gan ymgyrchwyr gwrth-aparteid Stop The Seventy Tour wedi’u harwain gan neb llai na Peter Hain, gŵr a gafodd ei fagu yn Ne Affrica yn ystod aparteid ac a ddeuai’n aelod seneddol Castell-nedd flynyddoedd yn ddiweddarach.

Roedden nhw’n bygwth tarfu ar unrhyw gêm y byddai’r twristiaid yn ei chwarae. O ganlyniad, cafodd cyfres o gemau rhwng Lloegr a Gweddill y Byd ei threfnu.

Daeth y gyfres ar adeg dda i Alan Jones. Ar ôl taith lwyddiannus gyda’r MCC i Ceylon ddechrau 1969, aeth yn ei flaen i helpu Morgannwg i ennill tlws Pencampwriaeth y Siroedd yr haf hwnnw.

“O’n i wedi cael tymor da, ac wedyn, ges i’n ddewis gyda Tony Lewis a Don Shep i fynd dros y dŵr gyda’r MCC. Aethon ni i Sri Lanca, Singapôr, Bangkok a Kuala Lumpur. Tony Lewis o’dd y capten, a rhan fwya’r tîm wedi whare i Loegr,” meddai yn 2019.

Cymro Cymraeg ymhlith y Saeson

Roedd Alan Jones ymhlith nifer o fawrion Lloegr – Geoff Boycott, Bob Taylor, Pat Pocock, Geoff Arnold, Keith Fletcher ac eraill.

“Pan es i [gyda’r MCC], ro’n i wedi cael taith dda. Sgories i lot o rediadau. Pan o’t ti’n mynd, dim ond un gêm first-class o’t ti’n whare, yn erbyn Ceylon amser ’ny. Ges i gant yn y gêm ’ny,” meddai.

Ar ôl gwneud ei farc ar y daith, mae’n amlwg na fyddai Alan ymhell o feddyliau’r dewiswyr yn enwedig am na fyddai Geoff Boycott, Colin Cowdrey a John Edrich ar gael ar gyfer y gyfres yn erbyn Gweddill y Byd. Ac er ei fod yntau hefyd wedi anafu yn chwarae yn erbyn Essex yr wythnos gynt, daeth cyfle mawr Alan yn y ‘prawf’ cyntaf yn Lord’s.

“O’dd e’n deimlad gwych. O’n i dipyn bach yn anlwcus oherwydd yn Ilford, droiais i ar fy mhenglin. Ar y ffordd ’nôl, glywon ni bo fi wedi cael fy newis i whare [dros Loegr]. Wedyn pan ddes i ’nôl, o’dd fy mhenglin mor wael bo fi’n ffaelu whare yn y gêm nesa’ yng Nghastell-nedd [yn erbyn Swydd Gaerwrangon] gyda Morgannwg.”

Doedd yr anaf ddim yn mynd i stopio Alan rhag chwarae dros Loegr, ac fe wnaeth e droi at gymeriad chwedlonol ym myd chwaraeon yng Nghymru, Bert Peel, ffisiotherapydd Morgannwg ar y pryd.

“Rhoddodd e driniaeth i fi am dri neu bedwar diwrnod ac es i lan i whare yn y prawf. Pan wyt ti’n cael dy ddewis i whare i Loegr, mae’n beth mawr yn dy fywyd di. O’n i’n edrych ymlaen i whare’n fawr iawn yn y gêm ’ny.”

Ac fe wireddwyd y freuddwyd rhwng Mehefin 17-22, 1970. Yn ogystal â diwrnod traddodiadol o orffwys ar y dydd Sul (Mehefin 21), roedd diwrnod ychwanegol o orffwys wedi bod ar ddydd Iau, Mehefin 18, ar gyfer yr etholiad cyffredinol pan achosodd y Torïaid sioc wrth guro’r Llywodraeth Lafur.

Cystadlu yn erbyn sêr mwya’r byd

Roedd tîm Gweddill y Byd yn frith o sêr o bedwar ban – Barry Richards, Eddie Barlow, Rohan Kanhai, Graeme Pollock, Clive Lloyd, Garry Sobers, Farokh Engineer, Intikhab Alam, Mike Procter, Graham McKenzie a Lance Gibbs. Ac roedd un ohonyn nhw’n barod am Alan Jones o Felindre, a sgoriodd bump a dim yn y naill fatiad a’r llall gan golli ei wiced i’r un bowliwr ddwywaith.

“Gath Procter fi ma’s ddwywaith. Rhaid i fi fod yn onest, nerfau gath fi ma’s yn fwy na dim yn whare yn y prawf cynta’. I whare mewn gêm brawf, mae’n wahanol i pan wyt ti’n whare gyda dy sir. O’n i wedi whare yn erbyn y bowlwyr yna gannoedd o weithiau ac wedi sgorio rhediadau yn aml iawn yn erbyn Procter, McKenzie, Sobers ond mae’n digwydd fel ’na ambell waith. A hefyd, o’n i fel ’sen i’n gwybod os na fydden i’n sgorio rhediadau yn y prawf yna, nag o’n i’n meddwl fydden i’n cael fy newis i whare i Loegr eto. ’Na fel buodd hi, wrth gwrs.

“Ond mae’n wahanol heddi, ti’n ffaelu mewn prawf heddi bedair neu bump o weithiau a ti mewn yn whare o hyd. Nag o’t ti’n cael y siawns maen nhw’n cael heddi. Mae wedi newid oddi ar bod Trevor Bayliss wedi cymryd drosodd.”

Ac roedd ffactor arall yn amlwg yn ei erbyn hefyd, sef ei fod e’n byw yr ochr ‘anghywir’ i Glawdd Offa.

“Mae pobol yn gweud, pan wyt ti’n whare i Forgannwg, ’sdim gymaint o siawns gyda ti i whare i Loegr ag os oeddet ti’n whare i Surrey, Middlesex neu dimau eraill yn Llundain. Fel ’na mae e wedi bod erioed, fi’n credu.”

Colli’r cap – a chael un answyddogol yn ei le

Er bod y gêm honno’n ddechrau a diwedd ar yrfa ‘ryngwladol’ Alan Jones, roedd rhagor o helynt i ddod. Adeg trefnu’r gyfres, roedd yr awdurdodau’n benderfynol y byddai gan y gemau statws prawf llawn. Ond nid felly y bu, ac fe gafodd y statws ei ddiddymu’n ddiweddarach – heb yn wybod i Alan ar y pryd. Nid tan i Andrew Strauss ddod yn bennaeth ar dîm Lloegr y cafodd yr anghyfiawnder ei gywiro.

“O’dd cinio yn Lord’s ac o’dd e am roi cap llawn i bawb o’dd wedi whare i Loegr. Wedyn ofynnodd e i fi os delen i lan achos o’n i wedi whare yn Lord’s mewn prawf yn erbyn Gweddill y Byd, a rhoddon nhw gap i fi. Y gwahaniaeth rhwng capiau llawn a hwnna fi wedi cael yw fod nymbar ar bob cap Lloegr, ond ’sdim un ar ’y nghap i.”

Fe fu dryswch ers hynny ynghylch statws y cap, gyda rhai adroddiadau bod y statws prawf wedi cael ei ddileu yn 1972.

“Sneb wedi ysgrifennu ata i i ddweud nag yw’r cap yn gap llawn, dim ond beth wyt ti’n darllen yn y papurau a Wisden,” meddai.

Gêm na welwn ni mo’i thebyg eto

Yn sgil y ffordd mae’r gêm wedi newid dros y blynyddoedd, a’r ffaith fod De Affrica bellach wedi dychwelyd i’r llwyfan rhyngwladol, mae’n annhebygol y gwelwn ni dîm Gweddill y Byd yn chwarae mewn gemau o’r fath statws eto.

“O’dd hwnna’n dîm mwy cryf na’r rhan fwya’ o dimau sy’n whare Test cricket heddi. Pan wyt ti’n cymharu hwnna gyda Zimbabwe, Sri Lanca neu Bangladesh, mae gwahaniaeth mawr yn safon y chwaraewyr yna.”

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, gyda’r fantais o edrych trwy lygaid y byd heddiw, dydy Alan Jones ddim yn difaru chwarae yn y gêm, yn enwedig gan fod pum chwaraewr o Dde Affrica hefyd yn chwarae, er gwaetha’r amgylchiadau gwleidyddol tanllyd yn y cyfnod.

“O’dd y bois yn dod ymlaen yn iawn gyda’i gilydd. Wy ddim yn credu y byddai [gêm Gweddill y Byd] yn digwydd eto oherwydd mae pawb yn whare yn Ne Affrica eto, ac mae popeth wedi newid yno nawr.”