D’yw e ddim yn ddweud mawr, a fydd e ddim syndod i’r bobol sy’n nabod fi, ond fy hoff amser o’r wythnos, o leia’ cyn y pandemig, oedd p’nawn dydd Gwener. Gorffen gwaith mor gynnar a phosib, a strêt lawr i far Nos Da ar lan Afon Taf (ail-agorwch plîs!), lle fydden i’n treulio’r pedair ne bump awr nesa, weithie mwy, yn gweiddi fflat owt ar fy ffrindie.