Waeth beth fo’ch barn ar bwy ddylai fod wedi cael eu lle ar lwyfan stiwdio’r BBC neithiwr, (Ebrill 29) roedd yn gyfle da i arweinydd y tair prif blaid, ynghyd â Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol a Richard Suchorzewski o’r Blaid Diddymu, siarad â’r genedl, yn ogystal ag i BBC Wales wneud rhywfaint o iawn am eu sylw gwaradwyddus o annigonol i etholiadau’r Senedd dros gyfnod yr ymgyrch.

Yn y diwedd, roedd cael cynulleidfa rithiol yn wastraff amser a fwytodd i amser y sgyrsio ei hun, ac roedd hi’n bur amlwg fod arweinwyr Llafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr wedi arfer â’r math hwn o fformat yn llawer mwy na’r ddau arall. Felly gan eto gamu’n ôl o’r tân a bod yn ddiduedd, dyma sut y buaswn i’n crynhoi nosweithiau’r pum dethol.

Andrew RT Davies – Y Ceidwadwyr

Llwyddodd RT i osgoi dweud unrhyw beth gwirion, y tu hwnt i gael mis yr etholiad yn anghywir ar ddechrau’r ddadl. Doedd yna ddim ymgais i grwydro ymhell o’r sgript y tro hwn ac roedd hynny er ei fudd.

Pwynt a ailadroddwyd ganddo, i geisio creu gagendor rhyngddo â Llafur, Plaid a’r DemsRhydd oedd eu bod nhw oll yn gyfrifol am gyflwr Cymru, a hwythau bob un wedi bod yn rhan o lywodraeth Cymru ar ryw ben dros yr 22 mlynedd diwethaf. Gyda’i blaid mewn llywodraeth yn San Steffan ers 11 mlynedd eleni, roedd o’n frwd eisiau cadw at y cyd-destun Cymreig.

Ac er gwaetha ymdrechion y cyflwynydd a’r arweinwyr eraill, gwrthododd gael ei dynnu i mewn i siarad am record llywodraeth Llundain i raddau helaeth na chael ei dynnu i mewn i ffrae addurno fflat Stryd Downing. Roedd llawer mwy o ganolbwyntio ar beth y byddai’n ei wneud mewn llywodraeth nag ymosod ar ei wrthwynebwyr.

Un peth amlwg hefyd oedd iddo gymryd safbwynt gydradd gadarn yn erbyn annibyniaeth a diddymu’r Senedd, gan gyfeirio at y ddau’n yr un anadl fel dargyfeiriad cyfansoddiadol diangen.

Noson dda felly i arweinydd y Ceidwadwyr.

Jane Dodds – Democratiaid Rhyddfrydol

Cafodd Dodds lai o amser na’r un arall yn y ddadl, ac roedd bai arni hi yn hyn o beth am beidio â gwthio’i hun iddi, ond roedd ei hatebion hefyd yn fyrrach. Y prif beth a wnaeth hi oedd diolch i’r sawl ofynnodd cwestiynau wrthi, am eu holi ac am eu gwaith. Roedd ‘na adlais o Nick Clegg yno, er go brin y byddai’n diolch i mi am haeru hynny, wrth iddi ymbellhau ei hun yn llwyr rhag y glymblaid a fu.

Roedd ei phwyslais hi’n gadarn iawn, iawn ar yr adferiad ôl-covid, ac ailadroddodd hyn droeon, ond roedd bron popeth a ddywedodd yn gyffredinol ac yn haniaethol ac yn fain iawn ar fanylion. Cafodd drafferth creu argraff yn erbyn tri gwleidydd mwy profiadol, na bod yr un testun sylw â Suchorzewski.

Er hyn, roedd ei datganiad i gloi’n cwmpasu sawl pwnc, ond wn i ddim pwy oedd yn gwrando arni erbyn hynny.

Mark Drakeford – Llafur

Noson weddol ddistaw gafodd Mark Drakeford, i’r graddau roedd ‘na gyfnodau y teimlai’r Prif Weinidog yn ôl-nodyn yn hytrach na’n gyfrannwr. Fel yn y ddadl flaenorol, edrychai’n anhapus pan siaradai ei wrthwynebwyr ar y llwyfan, gan yn aml siarad i lawr atynt. Llwyddodd hefyd tua’r diwedd gyfeirio “I beg your pardon?” pigog iawn at y cyflwynydd.

Roedd o yno am fod rhaid iddo fod.

Er yn siarad â mwy o liw nag yn y ddadl gynt, ac yn llwyddo cael ychydig o hwyl yn torri honiadau Suchorzewski ar agor tafarndai, chawson ni ddim llawer ganddo.

Yn nodedig, ni chafwyd sôn mawr ganddo am y pandemig ei hun, ond roedd Drakeford yn gwybod ei ffigurau ac yn awyddus i sôn am £200m i helpu busnesau ar ôl ail-agor, ac £1 biliwn ychwanegol i’r GIG a hefyd cynnig swyddi i bobl ifanc.

Roedd y lein “…decisions about Wales should only be made in Wales” yn un allai’n hawdd wedi dod o enau Adam Price. Yn wir, roedd hi’n lein wedi’i dwyn gan Leanne Wood ‘slawer dydd. Dangosodd yr amlwg, sef nad ydi Llafur ar dir cadarn o gwbl wrth drafod materion cyfansoddiadol. Roedd ei anghysur wrth i Bethan Roberts sôn bod yna ymgeiswyr Llafur sy’n arddel annibyniaeth yn ddirnadol.

Ond gyda Llafur yn gadarn iawn ar y blaen yn y polau, ac i weld yn hyderus am eu cyfleoedd, troi fyny’n unig oedd raid.

 Adam Price – Plaid Cymru

Llwyddodd Price i sefyll allan yn y ddadl. Roedd yn mwy na bodlon torri i mewn i gyfraniadau eraill, gan wneud hynny mewn ffordd nad oedd yn rhy ymwthiol. Roedd yn ddifyr fod ei gyfraniad cyntaf yn ymosodiad ar record Llafur ar iechyd, a’i fod yn yr hanner cyntaf o leiaf yn sylweddol fwy lliwgar na’r arweinwyr eraill yn ei drafod.

Roedd eto gydbwysedd rhwng cyfleu ei weledigaeth – gan gyflwyno ffigurau ynghyd â gweledigaeth –  â’i ymosodiadau, a rannodd yn gyfartal rhwng y ddwy lywodraeth a’r Diddymwyr. Cododd fargen werdd y blaid ambell dro, ac yn ddifyr i mi, fel y gwnaeth ar ddadl ITV, sôn am Aneurin Bevan. Mae’n amlwg lle mae Price yn credu mae pleidleisiau iddo.

Siaradai’n arafach y tro hwn hefyd, a oedd er ei fudd, heblaw ar bwnc annibyniaeth lle na allai ei helpu ei hun. Gallai ei gyfraniadau yma wedi bod yn gryfach drwy roi mwy o enghreifftiau o fuddion honedig annibyniaeth. Pwysleisiodd eto y sioc a gâi Llundain o ethol ei blaid i lywodraeth, yn cyferbynnu ag Andrew RT yn haeru y gallai ei blaid ef sicrhau mwy o gydweithio.

Ac eithrio’r brawddegau cloi – lle na allai ond am syrthio i ryw fath o farddoniaeth haniaethol lle na chyflëwyd fawr ddim – roedd hi’n noson gadarn i arweinydd y cenedlaetholwyr. Y broblem fwyaf i Price a’i blaid ydi ei bod yn annhebyg, hyd yn oed ar fformat mor amlwg, fod y neges wedi cyrraedd trwch y boblogaeth.

Richard Suchorzewski – Plaid Diddymu

O diar.

Yn amlwg nerfus o’r cychwyn cyntaf, gan ystumio’n rhyfedd a siarad yn araf a herciog, cafodd yn sicr argraff a lle yn y ddadl, ond nid fel y byddai wedi dymuno.

Cafodd ei daro lawr gan Drakeford ar ail-agor tafarndai heb unrhyw drafferth, a gwnaeth hyd yn oed Andrew RT ddiystyru raison d’être ei blaid yn gyfan gwbl. Pan dynnodd lythyrau Covid o’i siaced a chwyno bod cyfieithiad Cymraeg – mewn ateb i gwestiwn ar yr amgylchedd, nid llai – doedd ganddo ateb i “they want to abolish our language as well” Price. Roedd yn ffodus i ddianc o hynny heb ennyn ymateb llawer ffyrnicach.

Ddylai Cymru ddim cael datganoli nac annibyniaeth am ei bod ni’n rhy dlawd oedd y mantra ymhob ateb, a ddysgom ni ddim mwy na hynny heblaw am fod ei blaid am gyflwyno ysgolion rhydd ac academïau.

Yn ddifyr, fo oedd yr unig un ar y llwyfan siaradodd wrth edrych ar y camera. Er, yn y bôn, un neges oedd ganddo, sef diddymu’r Senedd, a go brin bod angen iddo gael ei gynnwys yn y ddadl i gyfleu hynny.