Un pwnc llosg sydd yn dominyddu’r byd pêl-droed yr wythnos yma, a hynny yw’r European Super League.  Mae 12 o glybiau mwyaf Ewrop – neu i fod yn gywir, clybiau mwyaf gwerthadwy Ewrop – wedi penderfynu ffurfio cynghrair newydd – ac mae mynediad i’r gynghrair trwy wahoddiad yn unig.