Bydd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn coffáu 50 mlynedd ers cau Chwarel Dinorwig ym 1969.
Bydd Dinorwig ’69 – Cofio’r Cau, sy’n agor ar 15 Gorffennaf 2019, yn edrych ar rai o’r rhesymau dros y cau yn Haf 1969 a’r effaith a gafodd hyn ar bentref Llanberis a’r gymdogaeth – a hyn oll wythnosau ar ôl Arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghaernarfon ar gylch o lechen Dinorwig.
Ar ôl y cau – collodd 350 o ddynion eu gwaith ac yn sgil hyn newidiodd cymuned chwarelyddol a ffordd o fyw a oedd wedi bodoli ers y 1780au am byth.
“Byddwn yn ceisio rhoi hanes y cau yn ei gyd-destun,” eglurodd Dr Dafydd Roberts, ceidwad yr amgueddfa.
“Nid dathlu yr ydym ond yn hytrach cofnodi y bennod bwysig hon mewn hanes.”
“Ganrif ynghynt, byddai cau’r chwarel wedi bod yn annirnadwy – roedd Chwarel Dinorwig yn un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd – a gyda Chwarel y Penrhyn ym Methesda, gallai gynhyrchu mwy o lechi toi mewn blwyddyn na’r holl chwareli llechi eraill yn y byd gyda’i gilydd.”
“Cafodd y tawelwch dieithr a ddaeth i Ddinorwig ym mis Awst 1969 effaith enfawr a hirbarhaol ar yr ardal.”
Ffilm, llun a gair
Mae’r arddangosfa’n cynnwys mur o 50 o ffotograffau sy’n cynrychioli chwarel Dinorwig dros y blynyddoedd a sydd wedi eu dewis gan gyn chwarelwyr.

Hefyd mae gwaith celf a barddoniaeth gan blant ysgol ardaloedd y chwareli, wedi ei gwblhau o dan ofal yr artist Mari Gwent a’r bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn. Hefyd bydd cyfres o straeon digidol o archif yr amgueddfa a wnaed 10 mlynedd yn ôl gyda phobol lleol yn cofnodi eu hatgofion am y Chwarel.
Yn ogystal â hyn bydd dwy ffilm i’w gweld ar y safle drwy gydol yr haf – sef ‘End of the Line’, ffilm a wnaed gan y BBC ym 1969 adeg yr arwerthiant, sy’n dangos y gwrthrychau’n cael eu gwerthu ac hefyd amrywiaeth o storïau digidol gan bobl leol am eu hatgofion o’r cyfnod, a gynhyrchwyd gyda chymorth disgyblion o Ysgol Brynrefail, a Ffarwel Roc, ffilm ddogfen o 1969 yn dilyn hanes Chwarelwyr Dinorwig.
Cynhelir rhaglen o weithgareddau i gefnogi’r arddangosfa, gan gynnwys taith gerdded i’r Chwarel ar 22 Awst a chyngerdd coffa ar 24 Awst am 7pm yn ffowndri yr amgueddfa.
“Bydd nifer o’n gweithgareddau yn canolbwyntio ar yr wythnos olaf ym mis Awst” meddai Dr Dafydd Roberts.
“Derbyniodd y dynion lythyr gan Gwmni Chwarel Dinorwig yn eu hysbysu y byddai’r chwarel yn cau ar yr 22 Awst, ac roedd yn ymddangos yn briodol i ni felly ddefnyddio’r dyddiad hwn yn ganolbwynt ar gyfer ein digwyddiadau.”
Twf a dirywiad
Dechreuwyd cloddio am lechi ar raddfa helaeth yn Chwarel Dinorwig yn y 1780au, ac erbyn y 1890au roedd yn cyflogi dros 3,000 o ddynion a bechgyn ifanc fel chwarelwyr, prentisiaid, seiri coed, ffitwyr, fformyn a rheolwyr.
Esgorodd y twf hwn ar rwydwaith o bentrefi – Llanberis, Deiniolen, Dinorwig, Cwm-y-glo, Llanrug, Bethel, y Felinheli a’r Waunfawr – ac roedd y cyfan yn dibynnu ar y chwarel am gynhaliaeth ac yn eu tro yn darparu’r gweithlu medrus yr oedd ei angen i droi’r graig yn llechi toi.
Mae’r diwydiant llechi, fel nifer o ddiwydiannau mawr eraill, wedi wynebu anawsterau. Bu sawl streic yn Chwarel Dinorwig yn 1885 gyda’r cau allan, a dilynwyd hyn ym 1900 gan y Cau Allan yn Chwarel y Penrhyn, a ddatblygodd yn un o’r anghydfodau diwydiannol hwyaf mewn hanes. Erbyn y 1960au, roedd y diwydiant llechi yn gyffredinol yn wynebu dyfodol mwy ansicr fyth.

Nid oedd pethau wedi bod yn mynd yn dda ers nifer o flynyddoedd, ac ymddengys fod sawl rheswm dros gau Chwarel Dinorwig ym 1969.
Roedd llai o alw am lechi yn y DU yn ystod yr 20fed ganrif. Roedd llechi o Gymru yn ddrud o’u cymharu â theils a llechi toi o dramor, ac roedd perchenogion Chwarel Dinorwig a Chwarel y Penrhyn yn cystadlu â’i gilydd am gyfran o farchnad gymharol fychan.
“Mae’n ymddangos hefyd nad oedd Chwarel Dinorwig wedi cael ei datblygu’n effeithiol,’ eglurodd Dafydd Roberts.
“Roeddynt wedi cloddi’r llechfaen mwyaf hygyrch erbyn y 1960au, ac roedd angen buddsoddi er mwyn datblygu ymhellach.”
“Nid oedd gan y perchenogion yr arian i wneud hyn yn iawn. Un o’r camgymeriadau oedd buddsoddi’n helaeth yn Chwarel Marchlyn, ond nid oedd y rhan hon o’r mynydd yn gwneud unrhyw arian. Nid oedd unrhyw lechfaen gwerth ei weithio yno.”
“Erbyn diwedd y 1960au, roedd y chwarel yn dibynnu ar archebion o Ffrainc i oroesi. Ym mis Gorffennaf 1969, daeth yr archebion hyn i ben. Dyma’r hoelen olaf yn yr arch. Pan gaeodd Chwarel Dinorwig – a oedd yn un o nifer helaeth o chwareli llechi i gau yn y 1960au – roedd hyn yn llawer mwy nag ergyd economaidd. Roedd ffordd o fyw yn wynebu dyfodol ansicr.”
Prif Lun: Ponciau Chwarel Dinorwig a’r ‘ceiliog mawr’ – craig ingneaidd ymwthiol yng nghanol y chwareli (Hawlfrant Gwasanaeth Archifau Gwynedd)