Blwyddyn Newydd, Dechrau Newydd!

Mae’r flwyddyn newydd yn gyfle i ni edrych o’r newydd ar sut yr ydyn ni’n byw ein bywydau; ar ein hiechyd, ein dyheadau a’n blaenoriaethau.

Beth fydd eich adduned blwyddyn newydd chi?

Yfed llai? Colli pwysau? Gwario llai o arian ar bethau di-angen?

Ond, mewn gwirionedd sawl un ohonon ni sy’n llwyddo i gadw at yr adduned erbyn diwedd mis Ionawr?

Beth am wneud adduned hawdd i’w chadw ac adduned a all leihau y risg i’ch diogelwch chi, eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned drwy gydol y flwyddyn? Beth am addo i arafu wrth yrru ar hyd ffyrdd Cymru?

Y ffeithiau

Yn 2015 bu farw 217 o bobl mewn damweiniau lle’r oedd goryrru yn ffactor, gyda 132 o bobl yn marw o ganlyniad i yrrwr yn gyrru’n rhy gyflym o ystyried amodau’r ffordd.1

Mae goryrru yn golygu bod gan yrwyr llai o amser i sylweddoli ac ymateb i’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, ac mae’n cymryd mwy o amser i’r cerbyd stopio. Mae’n dileu lwfans diogelwch y gyrrwr a gall hynny arwain at wrthdrawiad.

Gall lleihau eich cyflymder o gyfartaledd o 1 milltir yr awr leihau’r gyfradd ddamweiniau hyd at 5%!2,3

Byddwch yn ymwybodol o’r cyfyngiadau cyflymder, edrychwch ar yr arwyddion. Fydd goryrru ddim yn eich helpu i gyrraedd pen y daith yn gynt, a gallai gynyddu’n sylweddol eich siawns o gael damwain.

Mae ymchwil4 yn dangos bod yna dri math gwahanol o yrwyr:

  1. Gyrrwr Ufudd sydd fel arfer yn cadw at y cyfyngderau cyflymder (52% o yrwyr)
  2. Gyrwyr Cymedrol sydd weithiai’n torri’r cyfyngderau cyflymder (33% o yrwyr)
  3. Gyrwyr Eithafol sydd yn torri’r cyfyngderau cyflymder yn aml (14% o yrwyr)

Pa fath o yrrwr ydych chi?

Camerâu Diogelwch

Mae camerâu yno i annog modurwyr i yrru o fewn y cyfyngiad cyflymder, felly’r camerâu mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sy’n cofnodi’r nifer LLEIAF o dramgwyddau, nid y mwyaf.

Mae GanBwyll yn gosod camerâu cyflymder lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu, lle cofnodwyd goryrru, neu lle mae cymuned yn pryderu. Os bydd angen, gallwn weithredu ledled Cymru lle mae gwaith ar y ffordd, ger ysgolion ac mewn ardaloedd sy’n achosi pryder i’r gymuned.

Os ydych yn poeni am oryrru yn eich cymuned, gallwch gysylltu gyda ni drwy gwblhau’r ffurflen yma: <https://ganbwyll.org/contact-us/community-concern/> a byddwn yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Felly, pan fyddwch chi wedi ildio i demtasiwn siocled, wedi gwario gormod ar drip siopa neu wedi rhoi’r gorau i’r colli pwysau; peidiwch ag anghofio am ddiogelwch y ffordd a chadwch at y cyfyngderau cyflymder.

Dymunwn Flwyddyn Newydd Dda a blwyddyn ddiogel i chi gyd!

 

1 Department for Transport (2017) ‘Table RAS50001: Contributory factors in reported accidents by   severity, Great Britain, 2016’  https://www.gov.uk/government/statistical-data-sets/ras50-contributory-factors

 

2 Finch et al (1994) ‘TRL Project Report 58: Speed, Speed Limits and Accidents’  URL: https://trl.co.uk/reports/PR58

 

3 Taylor et al (2002) ‘TRL Report 421: The Effects of Drivers Speed on the Frequency of Road Accidents’  URL:  https://trl.co.uk/reports/TRL421

 

4 Stradling, S. et al (2008) ‘Road Safety Research Report 93: Understanding Inappropriate High Speed: A Quantitative Analysis’  http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20090417002224/http:/www.dft.gov.uk/pgr/roadsafety/research/ rsrr/theme2/safety93.pdf

Dweud eich dweud