Y cyfreithiwr cyflogaeth, Owen John, sy’n sôn am bedair ffordd y mae facebook a trydar wedi newid ein perthynas ni a’n lle gwaith.
Rhyw ddegawd yn ôl, pan wnes i ddechrau gweithio ym myd cyfraith cyflogaeth, roedd y byd yn lle tipyn gwahanol. Roedd Barack Obama newydd gael ei ethol yn Arlywydd America, roedd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan yr FA, a doedd braidd neb wedi clywed am facebook na trydar.
Erbyn heddiw wrth gwrs, mae facebook a trydar yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau bob dydd, ac hefyd yn ein gweithleoedd ni.
- Facebook a trydar yn ystod y broses recriwtio
Mae ystadegau diweddar wedi datgelu fod 64% o gyflogwyr wedi cyfaddef gwrthod cais am swydd gan ymgeisydd ar ôl edrych ar gyfrif facebook neu drydar yr ymgeisydd hwnnw. Ydy hynny yn gyfreithiol?
Wel, yn ôl y gyfraith, mae hawl gan gyflogwyr i ddefnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ymgeiswyr yn y modd yma os: (i) ydyn nhw wedi esbonio hynny o flaen llaw i ymgeiswyr (e.e. ar ffurflen gais), a (ii) os nad ydyn nhw wedyn yn gwahaniaethu’n annheg yn erbyn ymgeiswyr ar sail yr hyn maent yn ei ddarganfod ar eu cyfrifon.
Mewn gwirionedd fodd bynnag, mae’n naïf i feddwl fod pob cyflogwr wastad yn cydymffurfio â’r gyfraith ar y pwynt yma. Felly os ydych yn ymgeisio am swydd, byddwch yn wyliadwrus o’r lluniau facebook gwirion yna o’ch dyddiau coleg!
- Mae sylwadau facebook a trydar yn rhai cyhoeddus
Ydy eich gosodiadau preifatrwydd wedi eu gosod ar ‘uchel’? Ai dim ond llond llaw o ffrindiau neu ddilynwyr sydd gyda chi?
Wel, does dim ots o gwbl am hynny, achos yn gyfreithiol, mae sylwadau sy’n cael eu gwneud ar-lein yn cael eu trin fel rhai cyhoeddus, beth bynnag yw eich gosodiadau preifatrwydd a faint bynnag o ffrindiau neu ddilynwyr sydd gennych.
Yn gyson mewn achosion ble mae gweithwyr wedi dwyn anfri ar eu cyflogwyr mewn sylwadau ar-lein, mae’r Llysoedd yn ochri gyda’r cyflogwyr ac yn penderfynu bod gweithwyr yn ildio eu hawl i breifatrwydd y foment maen nhw’n dewis rhannu eu meddyliau gyda’r byd ar facebook neu drydar.
- Sylwadau facebook neu drydar y tu allan i oriau gwaith
Mae yna gred weithiau ymysg gweithwyr nad oes modd i’w cyflogwyr eu disgyblu na’u diswyddo am sylwadau a bostiwyd ganddyn nhw ar facebook neu drydar y tu allan i’w horiau gwaith. Dyw hyn ddim yn gywir.
Y gwirionedd yw, os oes yna unrhywbeth o gwbl ar gyfrif unigolyn sydd yn ei gysylltu â’i waith neu ei gyflogwr, a bod yr unigolyn hwnnw wedyn yn postio rhywbeth ar-lein sydd yn dwyn anfri ar ei gyflogwr, mae perffaith hawl gan y cyflogwr i gymryd camau disgyblu yn erbyn yr unigolyn – pa bynnag amser o’r dydd y postiwyd y sylwadau ar-lein.
- Dydy dweud “fy marn i a geir yma” ddim yn mynd i helpu
Mae’n boblogaidd bellach i gyflogwyr (yn enwedig rhai mawr) ofyn i weithwyr roi ymwadiad ar eu cyfrifon trydar sydd yn nodi rhywbeth fel “fy marn i, nid barn fy nghyflogwr, a geir yma”.
Yn ymarferol, mae’n bosibl bod gwerth i hyn, achos mae’n annog gweithwyr i feddwl yn ofalus am y sylwadau y maen nhw’n eu rhoi ar-lein. Ond, o safbwynt cyfreithiol, bach iawn o effaith mae ymwadiad o’r fath yn ei gael.
Os ydy gweithiwr yn camymddwyn ar gyfrif facebook neu drydar, dydy ymwadiad o’r fath ddim yn mynd i rwystro ei gyflogwr rhag ei ddisgyblu neu ei ddiswyddo, nac ychwaith yn mynd i rwystro pobl, yn gyfreithiol, rhag medru cysylltu’r cyflogwr gyda chamymddygiad y gweithiwr.
Mae Owen John yn gyfreithiwr cyflogaeth yng nghwmni Darwin Gray ac yn un o sefydlwyr y rhwydwaith Cyfreithwyr.com. www.darwingray.com / www.cyfreithwyr.com.