Byddwch yn barod – cyfreithiau newydd 2018

Cyfreithiau 2018 – sut fyddan nhw’n effeithio arnoch chi

Llun o dron yn yr awyr

Llun: Eduardo Famendes CCA4.0

Os ydych ar fin prynu tŷ, yn poeni am effaith Brexit, yn berchen ar gar clasurol neu yn bwriadu prynu drôn … mae Owen John o gyfreithwyr Darwin Gray ac un o sefydlwyr rhwydwaith Cyfreithwyr.com yn trafod rhai o’r cyfreithiau newydd sydd yn debygol o effeithio arnoch chi yn 2018.

Treth uwch ar dai drud

Bydd y dreth Gymreig newydd gyntaf mewn bron i 800 mlynedd, y Dreth Trafodiadau Tir, yn dod i rym yng Nghymru ar 1af o Ebrill 2018, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cyfraddau treth o’r 1af o Ebrill a fydd yn wahanol i Gymru o’i gymharu â Lloegr.

Yng Nghymru felly, mae’r drefn newydd yn golygu na fydd unrhywun sydd yn prynu tŷ gwerth hyd at £180,000 o’r 1af o Ebrill yn gorfod talu treth ar y tŷ hwnnw.

Dyma’r drefn newydd:

  • Dan £180,000 – dim treth.
  • £180,001 – 250,000 – treth is.
  • £250,001 – £400,000 – yr un dreth â nawr.
  • £400,001+ – treth uwch.

Er enghraifft, bydd rhywun sy’n prynu tŷ yng Nghymru am £500,000 ar ôl y 1af o Ebrill yn gorfod talu bron i £2,500 yn fwy o dreth o’i gymharu â phetai’r pryniant wedi digwydd cyn 1af o Ebrill.

Brexit

Mae disgwyl i drefniant tros dro Brexit gael ei benderfynu rhwng Ionawr a Mawrth, a’r gobaith yw bod cytundeb ynghylch cydweithio ar fasnach a diogelwch yn medru cael ei gyhoeddi o gwmpas mis Hydref. Wedi dweud hynny, does neb wir yn gwybod os yw’r amserlen hon yn realistig.

Er gwaethaf Brexit, bydd cyfraith newydd diogelu data yr Undeb Ewropeaidd yn dal i ddod i rym ym Mhrydain ym mis Mai. Bydd y gyfraith newydd hon yn anelu i ddiogelu data unigolion yn well (e.e. yn erbyn hacwyr) a gosod cosbau llawer mwy llym ar gwmniau sy’n torri’r rheolau.

Drônau

Mae drônau ym mhobman ballach, o feysydd fel ffotograffiaeth a ffilm i fyd teganau plant ac amaethyddiaeth. Ond, yn 2018, bydd Llywodraeth Prydain yn cyflwyno cyfreithiau newydd llym i’r rheiny sy’n dymuno bod yn berchen ar ddrôn. Er enghraifft, o hyn allan, bydd angen i berchnogion drônau basio prawf diogelwch ar-lein – tebyg i brawf theori gyrru car – a chofrestru eu drônau yn swyddogol gyda chorff canolog.

Gwahaniaeth mewn cyflogau dynion a menywod

Am y tro cyntaf erioed, bydd cyflogwyr sydd â mwy na 250 o weithwyr yn gorfod cyhoeddi gwybodaeth am y gwahaniaeth rhwng cyflogau y dynion a menywod sy’n gweithio iddyn nhw. Bydd angen i’r adroddiadau yma gael eu cyhoeddi gan gyflogwyr erbyn 4 Ebrill.

MOTs ar gyfer ceir clasurol

O fis Mai ymlaen, ni fydd angen tystysgrif MOT ar unrhyw gar sydd yn hŷn na 40 mlwydd oed. Golyga hyn y bydd hawl gan berchnogion bron i 300,000 o geir clasurol yn y Deyrnas Unedig yrru ar ein ffyrdd heb orfod pasio MOT. Mae Llywodraeth Prydain wedi ceisio cyfiawnhau’r newid drwy ddadlau fod perchnogion ceir clasurol yn tueddu i edrych ar ôl eu ceir yn well ac yn eu defnyddio llai.

Cyfnod nain-olaeth a taid-olaeth?

Mae nifer yn rhagweld mai 2018 yw’r flwyddyn pan fydd Llywodraeth Prydain yn cyflwyno hawl i neiniau a teidiau gymryd cyfnodau o absenoldeb o’r gwaith i ofalu am wyrion ac wyresau. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a phobl yn gweithio yn hirach, mae ystadegau diweddar yn awgrymu bod oddeutu 2 filiwn o neiniau a teidiau yn y DU wedi stopio gweithio neu wedi cymryd absenoldeb o’u gwaith i ofalu am blant.

Newidiadau yn y Cynulliad?

Bydd Deddf Cymru 2017, sydd yn dod i rym ar 1 Ebrill, yn rhoi pwerau newydd i’r Cynulliad i gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad a lleihau’r oed pleidleisio (o bosibl i 16 mlwydd oed). Yn ogystal, mae Comisiwn y Cynulliad eisioes wedi datgan y bwriad i gyflwyno Deddf eleni sydd yn newid enw’r Cynulliad i “Senedd Cymru”.

 

Mae Owen John yn gyfreithiwr cyflogaeth yng nghwmni Darwin Gray ac yn un o sefydlwyr y rhwydwaith Cyfreithwyr.com. www.darwingray.com / www.cyfreithwyr.com

 

Dweud eich dweud