Siop Fferm Ystâd Penarlâg


Siop Fferm Ystâd Penarlâg
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Ystâd Penarlâg yn Sir y Fflint sy’n cael ein sylw nesaf…

Fe agorodd Siop Fferm Ystâd Penarlâg, sydd ar gyrion pentref Penarlâg yn Sir y Fflint, ym mis Mawrth 2008 a chael enw’n fuan iawn yn baradwys i bobl sy’n caru bwyd. Syniad Charles Gladstone, gor-gor wŷr y Prif Weinidog William Ewart Gladstone, oedd y siop fferm a ehangwyd o fusnes Fferm Ffrwythau Castell Penarlâg a sefydlwyd ar yr ystâd ugain mlynedd yn gynharach.

Cafodd ei adeiladu mewn dull cynaliadwy allan o goed llarwydd a dyfwyd ar yr ystâd a waliau wedi’u gwneud o bapur wedi’i ailgylchu, a’r egwyddor sy’n arwain y prosiect yw ‘bwyd go iawn, wedi’i dyfu ag angerdd’. Yn ogystal â ffrwythau a llysiau a dyfwyd ar yr ystâd 20 erw, mae’r siop hefyd yn gwerthu cynnyrch gan ffermwyr tenant yr ystâd, cynhyrchwyr lleol a rhanbarthol, ynghyd â detholiad o gynnyrch eraill o’r DG wedi’u dewis a’u safoni gan staff a chwsmeriaid mewn sesiynau profi rheolaidd a gynhelir yn y siop. Mae deli yn y siop fferm (yr unig le sy’n gwerthu eu pasteiod Cig Eidion Cymreig a chwrw du sydd wedi ennill gwobrau), cigydd, a Chaffi Siop y Cogydd, sy’n gweini brecwast a chinio yn ogystal â the, coffi a chacennau blasus drwy gydol y dydd.

Fe enillodd y siop fferm wobr Adwerthwr y Flwyddyn Gwir Flas yn 2008/9, 6 mis yn unig ar ôl agor y siop a chael llwyddiant y flwyddyn ganlynol hefyd drwy gipio’r wobr eto yn 2009/10.

Dywed Alan Downes, rheolwr y Siop Fferm, mai’r berthynas rhwng tîm y Siop Fferm a’i chwsmeriaid yw’r allwedd i lwyddiant y busnes. “Rydym yn cyflogi pobl sy’n caru bwyd ac sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid” medd Alan. “Mae’n cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’r wybodaeth sydd ganddynt – os yw hynny am gaws, rhannu ryseitiau’n defnyddio cig eidion yr ystâd, neu gael sgwrs am sut mae’r cnydau’n tyfu”.

Mae siopwyr yn teithio o bell ac agos i ddod i’r siop, gyda nifer o siopwyr rheolaidd yn dod o Fanceinion. Mae Lindsey Roberts o Fro Morgannwg “yn ymweld bob tro fyddai yng Ngogledd Cymru” , a dywed H.J. Gittons o Benarlâg, “mae cael siop mor wych ar ein stepen drws yn ardderchog”. Ategir hyn gan D. Barker o Benarlâg sy’n dweud fod gan y siop fferm “amrywiaeth ardderchog o gynnyrch lleol ffres a gwybodaeth dda y staff am y cynnyrch sy’n golygu y byddwn yn parhau i siopa yma.”

Dweud eich dweud