Mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio’r ffyrdd yn ddiogel ac yn hyderus ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i sicrhau bod pob defnyddiwr ffordd yn gallu gwneud hynny. Byddwch yn amyneddgar wrth yrru tuag at farchog ar gefn ceffyl neu wrth i chi basio beiciwr. Cymerwch ychydig eiliadau ychwanegol i edrych eto cyn gadael cyffordd, gall beicwyr modur ymddangos ymhellach i ffwrdd nag y maent oherwydd eu maint. Disgwyliwch yr annisgwyl bob amser a byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd.
Beicwyr, marchogion, beicwyr modur, cerddwyr – mae’r holl ddefnyddwyr ffyrdd hyn yn cael eu cyfri fel defnyddwyr bregus y ffordd. Yn wahanol i gar neu fan, nid oes gan y defnyddwyr ffyrdd hyn unrhyw beth o’u cwmpas i gynnig amddiffyniad rhag gwrthdrawiad neu ddamwain. Gallai hyd yn oed gwrthdrawiad bach arwain at anafiadau difrifol neu fygythiad i fywyd unrhyw un o’r defnyddwyr ffyrdd hyn.
Gadewch i ni ofalu am ein gilydd ar y ffyrdd; a phryd bynnag a ble bynnag rydych chi’n gyrru, cofiwch:
- Gwyliwch eich cyflymder
- Disgwyliwch i ddod ar draws gwahanol ddefnyddwyr y ffordd
- Byddwch yn amyneddgar. Rhowch amser a lle i eraill
- Byddwch yn barod i eraill wneud camgymeriadau
- Canolbwyntiwch ar eich gyrru
- Peidiwch byth â gyrru a defnyddio ffôn symudol.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:
“Trwy wneud y dewis diogel pan ar y ffordd, a thrwy wneud y pethau bach fel gwisgo gwregys diogelwch ar bob taith, peidio â defnyddio’ch ffôn symudol a thrwy gadw at y cyfyngiadau cyflymder cyfreithiol, gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth i’n diogelwch ein hunain yn ogystal ag i ddiogelwch defnyddwyr eraill y ffordd.
Mae GanBwyll yn gweithio’n ddiflino ac yn angerddol i leihau anafiadau ar ffyrdd Cymru, nid yn unig trwy orfodi’r cyfyngiadau cyflymder a deddfau traffig ffyrdd eraill; ond trwy eiriol dros ac addysgu pob defnyddiwr ffordd ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Ond, ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain, a gall pob defnyddiwr ffordd yng Nghymru chwarae ei ran. ”
Yn ogystal â sefyll i fyny dros arafu a gwneud y dewis diogel wrth deithio ar y ffyrdd, mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd. Rhannwch ein postiadau cyfryngau cymdeithasol, dechreuwch sgwrs gyda’ch ffrindiau a’ch teulu, addysgu eich plant a chymryd rhan yn ein hymgyrchoedd.
Mae yna hefyd wirfoddolwyr Gwylio Cyflymder Cymunedol yn weithredol mewn cymunedau ledled Cymru, a gallwch chi gymryd rhan trwy ymuno â grŵp sefydledig neu weld a allwch chi sefydlu’ch grŵp eich hun yn eich cymuned leol.
Felly, chwaraewch eich rhan a gadewch inni ofalu am ein gilydd ar ffyrdd Cymru.