Angen canolbwyntio yn y tymor hir ar iechyd meddwl yng Nghymru

Arolwg newydd yn dangos fod angen canolbwyntio yn y tymor hir ar iechyd meddwl yng Nghymru

Arolwg newydd yn dangos fod angen canolbwyntio yn y tymor hir ar iechyd meddwl yng Nghymru

Mae bron i ddau o bob tri o bobl (63 y cant) gyda phroblemau iechyd meddwl yn dweud bod eu hiechyd meddwl a’u llesiant wedi gwaethygu yn ystod y pandemig, yn ôl arolwg newydd gan Mind Cymru.

Gyda’r cyfnod clo’n llacio, teuluoedd yn dod yn ôl at ei gilydd a phobl yn dechrau symud at y ‘normal newydd’, mae effeithiau hir dymor pandemig y coronafeirws ar iechyd meddwl pobl wedi codi ei ben unwaith eto.

Dangosodd ffigurau o arolwg Mind Cymru ‘Coronafeirws: Un Flwyddyn Ymlaen’ fod bron i ddau o bob tri o oedolion (63 y cant) yn credu bod eu hiechyd meddwl a’u llesiant wedi gwaethygu ers y cyfnod clod cyntaf fis Mawrth 2020.  Ar ben hynny, mae ychydig dros chwarter o bobl o’r farn eu bod wedi datblygu problem iechyd meddwl yn ystod y pandemig. Methu â gweld ffrindiau, teulu neu bartner a phoeni ynghylch y feirws oedd yr achosion pennaf, gyda 60% o ymatebwyr yn bryderus ynghylch gweld neu fod wrth ymyl pobl eraill ar ôl i’r cyfyngiadau lacio.

Wrth ymateb i’r cyfyngiadau hyn, mae Mind Cymru’n ail lansio’r ymgyrch #SefwchDrosofI, ac yn mynnu y dylai iechyd meddwl fod ar frig rhaglen Llywodraeth Cymru am flynyddoedd i ddod. Mae’r elusen yn galw ar y Dirprwy Weinidog newydd dros Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i wneud yn siŵr fod ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cefnogaeth i iechyd meddwl i helpu i adfer yn y tymor hir yn cael eu gwireddu.

Mae Mind Cymru’n gofyn i bobl o bob rhan o Gymru rannu eu hanesion iechyd meddwl, er mwyn i Lywodraeth Cymru sylweddoli pwysigrwydd cael rhagor o arian, gwell cyfreithiau a’r gwasanaethau iawn i gefnogi pobl gyda phroblemau iechyd meddwl.

Meddai Susan O’Leary, Cyfarwyddwr Dros Dro Mind Cymru: “Wrth i ni ddod allan o’r pandemig iechyd byd-eang, mae’n rhaid i gefnogaeth i iechyd meddwl y genedl fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae iechyd meddwl llawer iawn o bobl oedd eisoes yn dioddef problemau wedi gwaethygu a llawer hefyd yn cael problemau am y tro cyntaf.

“Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn dangos fod pobl Cymru angen buddsoddiad a chefnogaeth yn y tymor hir yn y blynyddoedd i ddod. Fe wyddom ni nad oes yna ateb sydyn i broblemau iechyd meddwl. Er y bydd llacio’r cyfyngiadau’n rhyddhad i lawer, mae’r arolwg yn dangos y bydd yn ychwanegu at bryderon llawer o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Bydd pobl angen cefnogaeth i oresgyn hyn ac i wynebu llawer o agweddau o’u bywydau cyn y pandemig.

“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiadau yn y Rhaglen ar gyfer Llywodraeth yr wythnos ddiwethaf ac mae’n rhaid canolbwyntio nawr ar wneud yn siŵr fod y rhain yn cael eu gwireddu. Mae’n rhaid cydio yn y cyfle i fuddsoddi mwy mewn cefnogaeth i blant a phobl ifanc, ar daclo anghydraddoldebau a sicrhau gostyngiad mewn amseroedd aros.

“Dyna pam ein bod yn gofyn i bobl rannu eu storïau gyda ni fel rhan o’n hymgyrch #SefwchDrosofI fel y bydd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, yn clywed eich lleisiau, yn sefyll drosoch chi a’r rhai ohonom sydd â phroblem iechyd meddwl a, thrwy hynny, sicrhau newid parhaol.”

Roedd Linda Roberts, sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac sy’n ofalwr, wedi dechrau dioddef problemau iechyd meddwl, gan gynnwys pryder, am y tro cyntaf y llynedd.

Meddai: “Fe gefais i amser caled iawn yn ystod y pandemig gan fy mod yn gofalu am fy meibion ond, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl mai nawr yw’r amser gwaethaf ar gyfer fy iechyd meddwl.  Roeddwn i’n colli aelodau eraill o’r teulu pan nad oeddwn i’n gallu gweld neb, ond, gan fod pawb yn teimlo rhywfaint o galedi, roedd hynny’n gwneud cael problemau gydag iechyd meddwl yn fwy derbyniol.

“Mae’n teimlo, gan fod y tafarndai a’r clybiau ar agor, fod pawb yn disgwyl i chi fod yn iawn, ond rydw i’n dal i fod yn bryderus a’m hwyliau’n isel a dydw i ddim yn teimlo’n barod i fynd allan a bod gyda phobl.”

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan, ewch at www.mind.org.uk/SefwchDrosofI.

Dweud eich dweud