Michael yn dilyn llwybr newydd i ddod yn athro Gwyddoniaeth cyfrwng y Gymraeg gyda’r Brifysgol Agored

Er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni ei charreg milltir nodedig o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n cynnig cymhellion ariannol cryf

Prifysgol Agored

“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o fy hunaniaeth. Rwy’n dod o deulu iaith Gymraeg, mae hi’n iaith gyntaf i mi, ac mae’n rhan fawr o bwy ydw i. Mae e wastad wedi gwneud synnwyr i mi addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i annog plant i ddysgu yn y Gymraeg ac i barhau â’r angerdd hwnnw.”

Mae Michael Rees yn frwdfrydig am addysg Gymraeg, ac yn benodol dysgu Gwyddoniaeth trwy’r iaith. “Rwyf wrth fy modd i allu siarad Cymraeg yn fy mywyd pob dydd… Rwy’n mwynhau ceisio gwneud pynciau anodd yn hawdd i’w deall ac i weld myfyrwyr yn dweud ‘wow’ am wyddoniaeth.”

Roedd Michael eisoes wedi sicrhau swydd yn Ysgol Gyfun Rhydywaun fel technegydd Gwyddoniaeth. Yr oedd eisiau ymestyn ei yrfa i ddysgu gwyddoniaeth ar lefel uwch, ond nid oedd yn gallu rhoi’r gorau i’w swydd er mwyn astudio’n llawn amser. Yn ffodus, trwy Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) newydd o’r Brifysgol Agored yng Nghymru, yr oedd modd i Michael cyfuno astudio gyda’i swydd bresennol a sicrhau’r cymhwyster sydd ei angen i ddod yn athro cymwys.

“Y Brifysgol Agored oedd yr unig opsiwn oedd yn gwneud synnwyr i mi. Mae e mor hyblyg! Gallaf barhau gyda fy swydd fel technegydd gwyddoniaeth yn ogystal â symud i mewn i’r rôl ddysgu newydd.”

Gall myfyrwyr ddewis dilyn un o ddau lwybr tuag at TAR gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru:

  • Mae’r llwybr cyflogedig yn ddelfrydol i rywun, fel Michael, sy’n gweithio mewn rôl athro heb gymhwyso mewn ysgol. Bydd yr athro dan hyfforddiant yn astudio ar gyfer TAR o amgylch ei ddyletswyddau presennol yn yr ysgol, bydd yn cael cyflog am y gwaith hwnnw, a chaiff ei gostau astudio eu talu drwy grant hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru.
  • Mae’r llwybr rhan amser yn galluogi pobl i astudio ar gyfer TAR ochr yn ochr ag ymrwymiadau bywyd eraill ac mae’n dal i gynnig profiad mewn ysgol. Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer ffioedd y cwrs a chostau byw wrth astudio gan ddilyn y llwybr rhan amser.

Mae prinder athrawon cyfrwng Cymraeg yn ogystal ag athrawon Cymraeg fel pwnc uwchradd ledled Cymru. Er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni ei charreg milltir nodedig o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n cynnig cymhellion ariannol cryf i bobl ddod yn athrawon Cymraeg neu Wyddoniaeth. Mae’r cymhellion hyn yn amrywio o £6,000 os mai gradd israddedig dosbarth 2:2 sydd gennych i £20,000 os oes gennych radd dosbarth cyntaf. Telir y rhain yn fisol i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer TAR, mewn rhandaliadau pro rata dros ddwy flynedd cwrs Y Brifysgol Agored.

Gan fod cymaint o alw, mae cyfleoedd cyflogaeth gwych ar gael i raddedigion newydd TAR cyfrwng Cymraeg a Chymraeg fel pwnc uwchradd.

Mae gennych amser o hyd i wneud cais ar gyfer yr ystod o gyrsiau TAR gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru gan gynnwys Cymraeg, Gwyddoniaeth a Mathemateg. Bydd y ceisiadau’n cau ar 2 Gorffennaf i ddechrau astudio ym mis Hydref. I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, ewch i: openuniversity.co.uk/cymru-tar