Chwaraewch Eich Rhan Er Diogelwch Holl Ddefnyddwyr Y Ffordd

Mae gan bob defnyddiwr y ffordd gyfrifoldeb am ei ymddygiad a’i agwedd ei hun wrth deithio.

Mae gan bob defnyddiwr y ffordd gyfrifoldeb am ei ymddygiad a’i agwedd ei hun wrth deithio.

Mae GanBwyll wedi sicrhau cefnogaeth yr heddlu, Cymdeithas Ceffylau Prydain, Cycling UK a RoSPA – Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau – i helpu i rannu’r neges ddiogelwch ffordd allweddol hon.

Daw’r fenter yn dilyn rhyddhau’r ffigurau damweiniau ffordd diweddaraf ar gyfer Cymru a ddangosodd fod 152 o bobl wedi marw yn 2019, yn cynnwys deiliaid ceir, beicwyr, beicwyr modur a cherddwyr.

Rydym yn annog defnyddwyr y ffordd i:

  • wisgo gwregys diogelwch
  • yrru o fewn y terfyn cyflymder
  • beidio â defnyddio ffôn symudol wrth yrru
  • fod yn ymwybodol o’u hamgylchedd
  • gadw pellter diogel o leiaf 1.5 metr wrth basio beiciwr
  • gymryd yr eiliad ychwanegol honno wrth gyffordd neu cyn croesi’r ffordd
  • ddisgwyl yr annisgwyl a chadw llygad am beryglon posib

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:

“Pa bynnag ffordd rydyn ni’n teithio ar ffyrdd Cymru, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel ar ein teithiau. Mae gan y dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud ar ein teithiau ganlyniadau.

Gofynnwn i bob defnyddiwr ffordd wneud y dewis diogel a pheidio â mentro ei ddiogelwch ei hun na diogelwch eraill trwy gymryd siawns. Cymerwch yr eiliad ychwanegol honno i feddwl am y dewis a wnewch ar y ffyrdd; dewis a all ac a fydd yn gwneud a gwahaniaeth.”

Dywedodd Gwenda Owen, Cycling UK:

“Y ffordd orau y gall beicwyr sicrhau ein bod yn cael ein gweld gan eraill ar y ffordd ydy trwy feicio lle y gellir ein gweld yn hawdd. Gall sicrhau, wrth inni reidio ein beiciau, ein bod yn weladwy i yrrwr helpu i atal yr esgus ‘sori nes i ddim eich gweld chi’. ”

Dywedodd Alan Hiscox, Cymdeithas Ceffylau Prydain:

“Dylai gyrwyr arafu i uchafswm o 15mya pan welant geffyl ar y ffordd gan fod yn amyneddgar a pheidio â seinio eu corn ac i oddiweddyd dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, gan adael o leiaf lled car os yn bosibl ac yna gyrru’n araf i ffwrdd. Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain bob amser yn argymell gwisgo dillad hi-vis wrth farchogaeth, waeth beth fo’r tywydd, amser o’r dydd neu p’un a ydych chi’n marchogaeth ar neu oddi ar y ffordd.”

Dywedodd Michelle Harrington, Rheolwr Diogelwch Y Ffordd RoSPA:

“Weithiau, gall ein hymddygiad ein hunain neu weithredoedd defnyddwyr eraill y ffordd ein rhoi mewn perygl, neu wneud ein taith yn annymunol neu’n llawn straen. Mae parch at ein gilydd, a sicrhau ein bod yn teithio o fewn canllawiau’r gyfraith yn hanfodol i ddiogelwch ar y ffyrdd. Os ydym yn anelu at drin pob defnyddiwr ffordd fel pe baent yn aelod o’n teulu, gellir osgoi gwrthdaro a bydd nifer y rhai sy’n cael eu hanafu ar y ffyrdd yn lleihau.”

 

 

Dweud eich dweud