Llwyddo’n Lleol 2050 – Barn y Bobl

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 eisiau eich help unwaith eto i benderfynu pwy sy’n haeddu gwobr Barn y Bobl.

Mae Llwyddo’n Lleol yn brosiect sydd wedi cynnig cyfle arbennig i bobl 18–29 oed sy’n wreiddiol o Wynedd a Môn, i dderbyn £1,000 a gwireddu cynllun 10 wythnos er mwyn datblygu syniad newydd.

Mae criw arbennig wedi eu dewis ar gyfer y cynllun yma. Mae saith ohonynt wedi bod yn gweithio’n tu hwnt o galed dros yr wythnosau diwethaf, ac yn parhau i wneud hynny rŵan, i ddwyn hadyn syniad yn gynllun busnes. Mae’r math o syniadau sydd ganddynt yn amrywio, o’r byd digidol, bwyd a diod, ymarfer corff a chynnyrch adnewyddadwy.

Barn y Bobl

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 eisiau eich help chi i benderfynu pa un o’r criw arbennig yma sy’n haeddu gwobr Barn y Bobl. Gwobr ychwanegol o £1,000 yw’r wobr yma, a bydd y swm yn cael ei rannu rhwng y tri sy’n dod i’r brig yn ôl barn y bobl.

Pwy sydd wedi denu eich sylw chi dros yr wythnosau diwethaf?

Pa un yw eich hoff syniad busnes?

Pwy sydd wedi eich adloni?

Cynnyrch neu wasanaeth pwy hoffech chi ei weld yn datblygu?

Mae’r saith wedi bod yn cymryd rhan mewn heriau wythnosol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae’r cynnwys i gyd i’w gael ar dudalen Facebook Llwyddo’n Lleol. Ewch i sbecian ac atgoffa eich hun pwy ydy pwy!

Yn ogystal â’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol, mae aelodau ohonynt wedi cymryd rhan mewn podlediadau, wedi sgwrsio sawl tro ar Capital Cymru, ac wedi rhannu eu teithiau trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu busnesau eu hunain, megis Facebook ac Instagram. Mae taith pob un wedi bod yn un gwerth ei dilyn, ond taith pwy sydd yn mynd â hi?

Cynan Glyn
Cynan Glyn, Caernarfon

Athro o Gaernarfon sydd yn angerddol am goffi da, ac sydd yn edrych i sefydlu siop goffi yn fro eu mebyd.

Alaw Williams
Alaw Williams, Pwllheli

Yn trawsnewid hen drelar ceffyl mewn i far jin Cymreig. Bydd Alaw yn mynd a’i bar jin allan i bethau megis partïon, priodasau a dathliadau.

Mirain Rhisiart
Mirain Rhisiart, Blaenau Ffestiniog

Mae Mirain yn rhedeg ei busnes INDI, brand newydd ethical o Flaenu Ffestiniog. Mae’r busnes yn gwerthu cynnyrch hwyl unigryw i Gymru ac ond yn defnyddio deunyddiau o ansawdd sydd ddim yn niweidio’r yr amgylchedd. Mae cynnyrch yn cynnwys crysau-t, siwmperi, bagiau a gwellt dur.

Daniel Lewis
Daniel Lewis, Caernarfon

Gyda’i fenter Lens Dros y Fens mae Dan yn gwneud ffotograffi a fideos gan ddefnyddio drone. Fydd yn gallu cynnig ei gwasanaeth i amryw o gleientiad gan gynnwys gwerthwyr tai, sefydliadau masnachol, safleoedd gwersylla, timau chwaraeon, ac prosectiau adeiliadu.

Osian Cai Evans
Osian Cai Evans, Penygroes

Mae Osian eisiau creu gwefan dysgu cerddoriaeth ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y wefan efo gwersi sy’n ffocysu ar offerynnau ac yn mynd a dechreuwyr i berfformwyr!

Lois Hughes
Lois Hughes, Pwllheli

Wedi astudio iaith BSL ers rhai blynyddoedd sylweddolodd Lois fod ddim adnoddau Cymraeg BSL allan yna ar y funud. Penderfynodd hi fod angen newid hyn ac mae hi wedi bod yn gweithio i sefydlu ap ‘Arwyddo’ BSL drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nathan Craig
Nathan Craig, Caernarfon

Mae Nathan yn cynnig gwersi pêl-droed i enethod a bechgyn oedran 4+. Mae’n teimlo ei fod yn bwysig helpu cadw plant yr ardal yn heini, cynnig cyfleoedd iddynt a’i bod nhw’n cael hwyl!

Dweud eich dweud