Mind Cymru’n cyhoeddi cefnogaeth iechyd meddwl yn Gymraeg

Elusen iechyd meddwl, Mind Cymru, yn lansio ei Gynnig Cymraeg sy’n annog mwy o bobl i ofyn am help iechyd meddwl yn Gymraeg

Heddiw, mae’r elusen iechyd meddwl, Mind Cymru, yn lansio ei Gynnig Cymraeg. Gyda chymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg, mae’n annog mwy o bobl i ofyn am help iechyd meddwl yn Gymraeg.

Y Cynnig Cymraeg yw ymrwymiad yr elusen iechyd meddwl i siaradwyr Cymraeg.  Mae’r ddogfen lawn ar gael ar wefan Mind ac mae’n amlinellu beth allwch chi ei ddisgwyl gan yr elusen, gan gynnwys:

  • Gwybodaeth iechyd meddwl

Gallwch ddarllen y tudalennau iechyd meddwl mwyaf poblogaidd yn Gymraeg ac mae pob gwybodaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc ar gael yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys sut i oroesi’r cyfnodau clo a sut i helpu person ifanc sy’n cael pethau’n anodd.  Gallwch hefyd ddarllen blogiau pobl o Gymru sydd wedi byw trwy brofiadau o anhwylder iechyd meddwl.

  • Cefnogaeth iechyd meddwl

Gallwch lofnodi ar gyfer gwasanaeth Monitro Gweithredol Mind Cymru, sef rhaglen hunan gymorth gydag arweiniad, rhad ac am ddim, chwe wythnos o hyd.  Mae’r holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg a gallwch ofyn am gael ymarferydd sy’n siarad Cymraeg.  Gallwch lofnod trwy’r wefan ar Mind.org.uk/AMCymru

  • Ymgyrchu

Mae holl ymgyrchoedd Mind Cymru’n ddwyieithog, gan gynnwys yr ymgyrch i wella’r gwasanaeth iechyd meddwl Cymraeg yng Nghymru.  Llofnodwch i ddod yn ymgyrchydd a dewis y Gymraeg fel eich iaith.

  • Cymraeg yn y gwaith

Bydd Mind Cymru’n hyrwyddo pob swydd yng Nghymru’n ddwyieithog ac yn cynnwys y Gymraeg fel maen prawf monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r elusen hefyd yn cynnig gwersi Cymraeg i unrhyw aelod o staff sydd eisiau gwella eu Cymraeg.

Meddai Cyfarwyddwr Mind Cymru, Sara Moseley, wrth sôn am y Cynnig Cymraeg:

“Rydyn ni’n falch o’n cenedl ddwyieithog ac yn ymdrechu i fod yn well elusen i Gymry Cymraeg.  Rydyn ni’n gobeithio, wrth lansio ein Cynnig Cymraeg, y byddwn yn annog siaradwyr Cymraeg i gysylltu â Mind yn Gymraeg a chael gwared ar y rhwystrau i gael help iechyd meddwl.

“Dim ond y dechrau yw hyn; rydyn ni’n ymdrechu i fod yn elusen y gall siaradwyr Cymraeg droi ati am gyngor a help.  Fe wyddom ni y gall iaith fod yn rhwystr wrth geisio cael help, felly, mae’n bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn.”

Meddai Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts:

“Rydyn ni’n falch fod Mind Cymru, elusen sy’n helpu cymaint o bobl yng Nghymru gyda’u hiechyd meddwl, wedi cofleidio ein Cynnig Cymraeg.

“Rydyn ni’n credu fod siaradwyr Cymraeg yn haeddu’r hawl i siarad yn eu hiaith gyntaf wrth ofyn am help a chyngor ac yn falch fod Mind Cymru’n cynnig gwasanaeth dwyieithog i bobl Cymru.  Fe hoffen ni ddiolch i Mind Cymru am eu holl waith yn datblygu eu hadnoddau a’u darpariaeth ac fel hoffen ni hefyd annog elusennau eraill i dderbyn ein Cynnig Cymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall Mind eich helpu chi yn Gymraeg, ewch i Mind.org.uk/CynnigCymraeg

Dweud eich dweud