‘Wagan’ yn cynyddu capasiti tafarn yn sylweddol

Roedd gan dafarn y Plu broblem – roedd digon o gwsmeriaid a dim digon o le!

Mae cynnal gigs a digwyddiadau byw yn un o gonglfeini tafarn y Plu yn Llanystumdwy.

Ond roedd hi’n mynd yn heriol – roedd digon o gwsmeriaid ond dim digon o le!

Felly, diolch i gymorth Grymuso Gwynedd, mae criw y dafarn gymunedol wedi datblygu tafarn deithiol.

Mae’r Wagan yn werth ei weld, ac mae eisoes yn helpu’r fenter i fod yn fwy cynaliadwy – nid yn unig i groesawu 400 o gwsmeriaid i’r dafarn (y capasiti cynt oedd tua 150), ond mae modd i’r dafarn wasanaethu priodasau a digwyddiadau eraill yn yr ardal.

Gwyliwch y fideo y glywed mwy nag y criw –

 

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol trwy raglen Grymuso Gwynedd, sef un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).