Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Angerdd dros y Gymraeg a’r Môr yn ysbrydoli myfyriwr

I Lewys Davies ei ddymuniad i fod yn rhan o gymuned Gymraeg ac angerdd dros y môr oedd ymhlith y prif resymau iddo ddewis i astudio ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.

Mae’r dyn ifanc o Bwll ger Porth Tywyn yn astudio’r cwrs BA Dylunio Graffeg drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg ac yn cychwyn ar ei ail flwyddyn yng Ngholeg Celf Abertawe eleni.  Mae Lewys hefyd yn syrffiwr brwd ac yn hyfforddwr syrffio addasol yn Surfability UK CIC ym Mae Caswel, lle mae’n dysgu a helpu pobl sydd ag anableddau i syrffio.

Astudiodd Lewys y pynciau Celf a Dylunio, Mathemateg a Ffiseg ar gyfer arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol (TAG) Uwch yn Ysgol Gyfun y Strade a thra yno creodd ei waith celf o amgylch thema’r môr.

Meddai:  “Wrth astudio Lefel A Celf a Dylunio, dewisais i astudio’r môr oherwydd fy angerdd dros y tonnau, a chredaf taw un o’r prif resymau dewisais i astudio yn y Brifysgol hon oedd y lleoliad – y ffaith roeddwn dal yn gallu bod yn agos at y môr wrth astudio, ond hefyd roeddwn dal eisiau aros yng Nghymru i barhau i fod yn rhan o gymuned Cymraeg”.

Roeddwn yn ffodus iawn i dderbyn ysgoloriaeth cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chael y cyfle i weithio fel llysgennad Cymraeg yn y Brifysgol. Dyma yw un o’r pethau gorau sydd ar gael yn y Brifysgol achos rydych chi’n datblygu eich sgiliau iaith tra’n derbyn arian i wneud hynny.

“I ategu at hyn, roedd gweithio fel llysgennad yn gyfle gwych i gynnal gweithgareddau ar gyfer cymuned Gymraeg y Brifysgol, a chwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill, a myfyrwyr Cymraeg eraill ar draws Cymru. Ces i brofiad gwych o fynd i Langrannog i gwrdd â’r llysgenhadon eraill a wnes i fwynhau y profiad yma’n fawr”.

Yr hyn sy’n apelio hefyd i Lewys yw’r ffaith fod yn cwrs yn cynnig profiadau eang i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau dylunio.

Meddai: “Mae’r amrywiaeth yn helpu chi i ddeall yr agweddau gwahanol sydd yn y byd celf – o ddatblygu brand i gleient i ddylunio cylchgronau neu ymgyrchoedd –  a sut gallech chi greu gwaith sy’n gallu creu dylanwad positif dros y byd.

Ond mae ei waith hefyd yn parhau i ymdrin â thema’r môr, ychwanega:

Oherwydd lleoliad y Brifysgol, rwy’n ffodus iawn bod y môr a’r traeth yn agos iawn achos rwy’n hoffi ymchwilio gwaith celf sy’n gysylltiedig â’r môr.  Rwy wedi treulio amser ar y traeth yn arbrofi gyda dŵr y môr yn fy ngwaith celf. Nid yw’r cwrs yma yn gyfyngedig i’r llyfrgell yn unig ar gyfer ymchwilio; mae’r opsiwn yno i fynd unrhyw le i gwblhau unrhyw fath o ymchwilio neu arbrofi, ac mae hwnna’n elfen ddiddorol iawn sy’n atgyfnerthu amrywiaeth ac unigrywiaeth y cwrs.

Mae Lewys hefyd yn llawn canmoliaeth o’r ystod o brofiadau a gynigir ar y cwrs yn cynnwys digon o help i oresgyn unrhyw broblemau a hefyd y lle i arbrofi a dysgu drwy wneud.  Hefyd, mae’r cwrs yn cynnig paratoad ar gyfer y gweithle.

Meddai Lewys: “Teimlaf bod y cwrs wedi helpu’n fawr yn broffesiynol trwy allu cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol i gael blas ar ba fath o waith gallech wneud fel dyluniwr graffeg er mwyn ehangu eich portffolio i helpu fe sefyll allan i gyflogwyr. Mae’r cwrs hefyd wedi fy helpu’n bersonol trwy ddatblygu hyder i fynd am unrhyw gyfle sydd ar gael yn y byd dylunio.  Os ydych yn methu gwneud rhywbeth, mae hynny dal yn rhan o’r broses ac yn eich helpu chi’n fawr i ddatblygu fel dyluniwr.

“Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o wythnos lle daeth cwmnïoedd fel ‘Sky’ a ‘Pepsi’ mewn i siarad gyda ni am beth oedd hi fel gweithio mewn diwydiannau poblogaidd, cynnal gweithgareddau gyda phawb i gael profiad gwaith, a chynnig y cyfle i ennill interniaeth gyda nhw i ddatblygu ein gyrfaoedd fel dyluniwr graffeg. I ategu at y profiad gwych hyn, mae’r adran yn cynnig teithiau tramor i ddysgu mwy am y dyluniadau graffeg sydd o gwmpas y byd, ac mae hynny’n helpu i ddatblygu ac amrywio ein portfolio trwy gydol eu cwrs.

Meddai Gwenllian Beynon, Uwchddarlithwraig sy’n gyfrifol am gyrsiau cyfwng Cymraeg Coleg Celf Abertawe:  “Mae Lewys yn ymgymryd â rhan o’i astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg sy’n gyfle sydd ar gael i holl fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe. Gellir defnyddio’r Gymraeg yn ymarferol, yn ysgrifenedig ac mewn trafodaethau. Mae’n wych i ni weithio gyda, a chefnogi ein myfyriwr Cymraeg yma yn y Coleg Celf a gweld eu gwaith a’u hymgysylltiad yn datblygu dros eu hastudiaethau gyda ni”.

Ychwanegodd Donna Williams, Rheolwr Rhaglen BA (Anrh) Dylunio Graffeg: ‘Rydym wrth ein bodd bod Lewys yn ymgysylltu’n llawn â phopeth sydd gennym i’w gynnig yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS. Mae Lewys yn fyfyriwr ymroddedig ac angerddol, a dyna rydyn ni’n ei garu. Mae wedi cymryd ei gariad at y môr a’i amgylchedd a’i gyfuno â dylunio i greu prosiectau diddorol a chadarnhaol. Mae angen dewrder i fynd amdani, ac mae’n gynrychiolydd gwych o’n diwylliant Cymreig. Da iawn Lewys!’