Ymunwch yn y frwydr dros iechyd meddwl yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon

Mind Cymru yn “annog pob un ohonoch i ymestyn allan at rywun sydd angen ffrind gyda neges bositif”

Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn adeg rhyfedd ac anodd i bob un ohonom. Mae’r pandemig byd eang wedi newid sut rydyn ni’n byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu. Mae pob agwedd o’n bywydau wedi gorfod addasu.

Tra bo’r pandemig Coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar ein hiechyd corfforol, mae’r goblygiadau iechyd meddwl hefyd yn dod yn gynyddol amlwg.

Mae miliynau ohonom wedi cael problemau iechyd meddwl, neu wedi gweld anwyliaid yn cael trafferthion, am y tro cyntaf yn ein bywydau. Mae rhai ohonom wedi gweld ein hiechyd meddwl, a oedd eisoes yn fregus, yn plymio, a’r rhwydweithiau cefnogi a oedd o’n cwmpas yn diflannu. Rydym wedi gweld ein ffrindiau, ein partneriaid, ein rhieni, ein plant a ni’n hunain yn ceisio dod i delerau gyda’r hyn sy’n digwydd.

Siaradodd Mind Cymru gyda thros 800 o bobl yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf a chanfod fod dros 60% o bobl yn teimlo fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Roedd y ganran hyd yn oed yn uwch ymysg pobl ifanc. Cafodd pryder am deulu a ffrindiau yn cael y feirws ei dyfynnu gan dri chwarter y bobl fel y rheswm pam fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu.

Mae meddwl am fynd yn ôl i mewn i’r byd yn gallu bod yn frawychus. Roedd mwy na 50% o’r bobl y siaradodd Mind Cymru â nhw fel rhan o arolwg diweddar yn dweud eu bod yn bryderus wrth feddwl am lacio’r cyfnod clo.

Mae’n amlwg fod y pandemig wedi cael effaith anferth ar iechyd meddwl pobl ac yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni sefyll gyda’n gilydd a brwydro dros ein hiechyd meddwl. Dyna pam, yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon, fod Mind yn gofyn i chi ymuno â ni yn y frwydr dros iechyd meddwl da.

Meddai Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Dros Dro Mind Cymru: “Mae’n rhaid i ni sefyll gyda’n gilydd, fel cymuned, fel cenedl, i frwydro i wneud yn siŵr fod pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth y maen nhw ei angen, pryd maen nhw ei angen.

“Mae llawer ohonom yn poeni am goronafeirws a sut y bydd yn effeithio arnom ni a’r rhai rydym yn eu caru. Efallai nad yw’r rhai ohonom sydd eisoes gyda phroblemau iechyd meddwl erioed wedi teimlo mor ynysig ac unig. Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn defnyddio ein profiadau ein hunain i helpu ein gilydd.

“Dyna pam rydym yn annog pob un ohonoch i ymestyn allan at rywun sydd angen ffrind gyda neges bositif, gan eu hannog i ddweud eu dweud, ac i sicrhau nad ydyn nhw’n gorfod wynebu’r pandemig hwn ar eu pen eu hunain. Mae’n dechrau pan ydym ni yma dros ein gilydd.”

Beth allwch chi ei wneud:

  • Sôn wrth bobl pam fod brwydro dros iechyd meddwl yn bwysig i chi.A ydych chi’n brwydro dros y person oeddech chi’n ieuengach ac yn brwydro gydag iselder, dros eich ffrind sydd ar restr aros neu dros wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg, rhannwch eich stori ar y cyfryngau cymdeithasol a helpwch i greu ymgyrch.
  • Ymestyn allan at rai sydd angen cefnogaeth i roi gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.Rhannwch wybodaeth iechyd meddwl Mind Cymru yn Gymraeg
  • Neu rhowch wybod iddyn nhw am y gwasanaeth cefnogi am ddim yn Gymraeg, Monitro Gweithredol, er mwyn eu helpu i gael eu teimladau o dan reolaeth org.uk/AMCymru
  • Rhannwch fideo Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mind Cymru –org.uk/Brwydrwch
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno yn y sgwrs drwy ddilyn @MindCymru ar drydar a defnyddio #mhaw #fightforMH

Mae cyflwynydd BBC Radio Cymru, Ameer Rhys Davies-Rana yn cefnogi galwad Mind Cymru i frwydro dros well iechyd meddwl. Meddai: “Rwy’n cefnogi’r ymgyrch yma dros degwch, dros barch a thros gefnogaeth a allai newid bywydau.

“Gyda’n gilydd, gallwn frwydro i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dros ein ffrindiau, ein teulu a’n cymunedau.Rwy eisiau i bawb allu cael yr help y maen nhw ei angen, pryd maen nhw ei angen. Mae’n amser i ni wneud gwahaniaeth a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ei ôl.”

I ganfod rhagor am sut y gallwch ymuno yn y frwydr dros iechyd meddwl, ewch at ein gwefan: Mind.org.uk/Brwydrwch

 

Dweud eich dweud