Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd Eleni, Gwnewch Un Peth a newid popeth

Mind Cymru’n galw ar bawb yng Nghymru i ‘Wneud Un Peth’ i wneud cymdeithas yn well lle

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, mae Mind Cymru’n galw ar bawb yng Nghymru i ‘Wneud Un Peth’ i wneud cymdeithas yn well lle.

“Erbyn hyn, mae ein byd wedi’i begynnu fwy nag erioed.  Ac mae’r annhegwch amlwg ynghylch hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, anabledd yn dal yn ddychrynllyd o amlwg” meddai Simon Jones, Pennaeth Polisi ym Mind Cymru.

“Ddylai cymdeithas ddim bod fel hyn. A ddylen ni ddim gorfod brwydro am y gefnogaeth iechyd meddwl y mae cymaint ohonom ei angen. Ac mae’r pandemig wedi gwneud pethau’n waeth, gan roi iechyd meddwl miloedd o bobl ar draws Cymru mewn perygl”.

Mae Mind Cymru’n arwain y frwydr am well iechyd meddwl.  Mae’r elusen eisoes wedi helpu mwy na 6000 o bobl gyda’i wasanaeth Monitro Gweithredol, am ddim, sy’n cynnig hunan help wedi’i gyfeirio ar gyfer problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.

Mae hefyd wedi ymrwymo i lobïo dros newid.  Mae tîm Mind Cymru’n gweithio’n galed i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol, ac i wneud yn siŵr hefyd bod lleisiau’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn cael eu clywed.

Ar ben hynny, mae Mind Cymru wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael yr help y maen nhw ei angen, pan maen nhw ei angen.  Diolch i newidiadau diweddar yn y cwricwlwm yng Nghymru, mae iechyd meddwl yn uwch ar yr agenda nag erioed o’r blaen, ac mae’r elusen Rhwydwaith Llais Ieuenctid yn cynrychioli pobl ifanc o bob rhan o Gymru.

Mae hollol hanfodol cael cefnogaeth yn y Gymraeg.  Mae’r holl wybodaeth iechyd meddwl mwyaf poblogaidd yr elusen ar gael erbyn hyn yn Gymraeg. Mae’n gallu bod yn ddigon anodd taclo problemau iechyd meddwl heb orfod eu cyfieithu i’ch ail iaith – ac mae Mind Cymru’n cymryd camau i wneud yn siŵr na fydd raid i chi.

Beth allwch chi ei wneud i ymuno yn y frwydr? Gallai’r her fod yn teimlo’n llethol. Ond os gwnawn ni i gyd un peth i ymladd dros iechyd meddwl, yna, gyda’n gilydd, gallwch adeiladu cymdeithas sy’n ymladd dros iechyd meddwl pob un a phawb ohonom.  Ewch at Mind.org.uk/GwnewchUnPeth i weld sut y gallwch chi gymryd rhan.

Gwnewch un peth: Ychwanegwch eich llais

Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw siarad allan am eich iechyd meddwl.  Mae iechyd meddwl yn stigma gwirioneddol yng Nghymru ac mae’n bwysig bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am yr anawsterau y maen nhw’n eu hwynebu heb fod ofn gwahaniaethu.

Po fwyaf ohonom sy’n trafod sut rydyn ni’n teimlo, yr hawsaf fydd hynny.  Gwnewch un peth heddiw a dechrau sgwrs am iechyd meddwl.

Gwnewch un peth: Ymgyrchwch dros gydraddoldeb iechyd meddwl 

Gallwch hefyd ymuno â Mind Cymru fel ymgyrchydd.

Bob blwyddyn, bydd Mind Cymru’n ymuno gyda channoedd o ymgyrchwyr i lobïo gwleidyddion am newid, ac i greu system well ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl.

Gyda’ch llais chi hefyd, gallai hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.  Gallwch ganfod rhagor ynghylch dod yn ymgyrchydd Mind Cymru yma.

Gwnewch un peth: Cyfrannwch heddiw

Mae’r pandemig wedi peryglu iechyd meddwl miliynau o bobl ac mae yna ormod o bobl yn dal heb gael y gefnogaeth y maen nhw’n ei angen.

Ond, gyda’ch help chi, gallwn ni gynnig gwybodaeth a chefnogaeth ac ymgyrchu am well gwasanaethau iechyd meddwl i bawb – waeth beth yw eu hil, oedran, rhyw, tueddiad rhywiol, anabledd neu ddosbarth.

Gyda’n gilydd, gallwn ni adeiladu cymdeithas sy’n ymladd dros iechyd meddwl pob un ohonom.

Os wnewn ni gyd un peth, gallwn newid popeth.