Cyngor iechyd meddwl wrth adael y cyfnod clo

Yn bryderus fod y cyfnod clo’n llacio? Gall yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru eich helpu i reoli eich teimladau ynghylch llacio’r cyfyngiadau.

Yn bryderus fod y cyfnod clo’n llacio? Nid chi yw’r unig un. Ar ôl 18 mis o’r pandemig coronafeirws ac o gloi a chyfyngu ar ein bywydau bod dydd mae bywyd fel pe byddai’n dod yn ôl i ryw fath o drefn.  Mae Cymru bron iawn ar Lefel Rhybudd Sero ac, er bod hyn yn newyddion gwych i rai pobl, nid pawb sy’n teimlo’r un fath.  Mae yna lawer ledled Cymru sy’n bryderus ynghylch symud yn ôl i normalrwydd  – ac mae hynny’n gallu gwneud i chi deimlo eich bod chi’n cael eich gadael ar ôl.

Gall yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru eich helpu i reoli eich teimladau ynghylch llacio’r cyfyngiadau.  Yma, mae Rosie Weatherly, Rheolwr Cynnwys Gwybodaeth yn Mind, yn cynnig cyngor ar beth allwch chi ei wneud i reoli eich pryderon a dygymod gyda newidiadau i gymdeithas.

Meddai: “Bydd llawer o bobl yn teimlo’n obeithiol wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau llacio ac i’r brechlyn ddod yn fwy cyffredin,  ond mae’n anodd i rai eraill ddygymod â’r newidiadau.  Mae’n bosibl fod rhai pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rhai oedd yn cysgodi yn ystod y pandemig, yn teimlo llawer o wahanol emosiynau ynghylch llacio’r cyfyngiadau.  Gallai hynny gynnwys pryderon ynghylch iechyd, torfeydd a chymdeithasu a newidiadau i’w bywyd bob dydd,  Ond mae’n bwysig cofio hefyd nad oes yna ymateb ‘normal’ i newidiadau fel hyn.  Mae teimladau’n gallu newid o ddydd i ddydd, a chael eu heffeithio gan bethau y tu hwnt i’n rheolaeth.

“Ar gyfnod clo llawn, efallai fod pethau teimlo’n fyw pendant ac yn haws eu dilyn, y rheolau’n gliriach, gallai rhai agweddau o gyfnod clo fod yn bositif i lesiant ac yn werth cadw atyn nhw mewn bywyd bob dydd,  Ond, wrth i bethau ddechrau llacio, mae rhai pobl yn dechrau teimlo’n fwy pryderus.

“Os ydych chi’n pryderu ynghylch llacio’r cyfnod clo, ceisiwch gymryd pethau wrth eich pwysau a rhoi cyfle i chi’ch hunan addasu.  Efallai y byddai o help siarad gyda rhywun y gallwch chi ymddiried ynddo neu ynddi ynghylch sut rydych chi’n teimlo, ffrind, aelod o’r teulu neu rywun o’r byd iechyd.  Mae cael rhywun i wrando a dangos bod ganddyn nhw ots yn gallu bod o help ynddo’i hunan.  Mae cefnogaeth cymuned cymheiriaid ar lein Mind – Ochr wrth Ochr – ar gael i unrhyw un dros 18 oed a throsodd gyda phroblem iechyd meddwl ac mae’n lle diogel i bobl rannu eu profiadau a chlywed gan bobl eraill am eu hiechyd meddwl.

“Os ydych chi’n sylwi ar newidiadau yn eich meddyliau a’ch ymddygiad sy’n parhau am fwy na phythefnos ac sy’n amharu ar eich bywyd bob dydd – megis gwaith a pherthynasau – siaradwch gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo.  Dylai eich meddyg teulu fod yn gallu trafod gyda chi y gefnogaeth sydd ar gael ac mae’r rhan fwyaf o feddygfeydd teulu’n cynnig ymgynghori dros y ffôn neu fideo ar hyn o bryd, felly holwch beth sydd ar gael.  Mae cefnogaeth ar gael hefyd trwy wefan Mind, trwy linell wybodaeth gyfrinachol ar 0300 123 3393 a thrwy ein rhwydwaith o Mind lleol, sy’n dal i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da, coronafeirws ddiogel, yn Lloegr a thrwy Gymru.

Os ydych chi’n teimlo’n bryderus ynghylch llacio’r cyfnod clo, gall Mind helpu.  Ffoniwch y llinell wybodaeth ar 0300 123 3393 neu ewch ar wefan Mind i gael gwybodaeth a chanllawiau ar sut i ofalu amdanoch chi eich hunan a rheoli eich teimladau wrth i’r cyfyngiadau lacio.  I ganfod rhagor yn Gymraeg neu Saesneg, ymwelwch â’r dudalen wybodaeth ar ein gwefan.

Gallwch hefyd gael cwrs am ddim o hunan help gydag arweiniad ynghylch pryder neu emosiynau eraill trwy’r gwasanaeth Monitro Gweithredol. Gallwch ganfod rhagor ac ymuno ar lein ar wefan Mind.

Dweud eich dweud