Wrth i lawer ohonon ni edrych ymlaen at wyliau haf dramor eleni, mae’r cyfreithiwr Owen John o gwmni Darwin Gray a’r wefan cyfreithwyr.com yn edrych ar rai o’r cyfreithiau anarferol a allai droi gwyliau haf yn hunllef mewn rhai rhannau o’r byd.
- Barbados
Mae deddf unigryw yn bodoli yn Barbados (Ddeddf Amddiffyn 2006) sydd yn gwahardd unrhywun rhag gwisgo unrhyw ddilledyn sydd yn cynnwys patrwm cuddliw (camouflage). Mae’n debyg fod y ddeddf yn cael ei gorfodi yn llym dros ben ar yr ynys a bod y cosbau am dorri’r gyfraith yn medru cynnwys dirwyon o hyd at $2,000 neu gyfnod yn y carchar. Mae hyd yn oed straeon am blant ar wyliau yno yn gorfod ildio’u sbectol haul am fod patrwm cuddliw arnyn nhw!
- Singapore
Yn 1992, fe gyflwynodd Singapore ddeddf i wahardd gwerthiant neu ddefnydd gwm cnoi yn y wlad. Er fod y gyfraith wedi cael ei llacio rhyw ychydig ers 2004, gyda cnoi gwm bellach yn cael ei ganiatáu ar gyfer dibenion therapiwtig neu ddeintyddol, mae dirwyon i’w cael o hyd am dorri’r ddeddf.
- Fenis, Yr Eidal
Am ddegawdau, roedd bwydo’r adar yn Sgwâr Sant Marc yn Fenis yn rhan o gynlluniau gwyliau nifer o dwristiaid wrth ymweld â’r ddinas Eidalaidd enwog. Serch hyn, yn ôl yn 2008, fe gyflwynwyd cyfraith sydd bellach yn gwahardd bwydo unrhyw adar yn y rhan hanesyddol hon o’r ddinas. Mae’r dirwyon am dorri’r gyfraith yn medru amrywio o €70 i €700.
- Cambodia
Yn 2001, fe gymerodd prifddinas Cambodia, Phnom Penh, y cam anarferol o wahardd gynnau dŵr yn gyfangwbl. Mae bellach yn anghyfreithlon i brynu, gwerthu, neu ddefnyddio gwn dŵr yn y ddinas. Mae’n debyg mai’r esboniad am gyflwyno’r gwaharddiad oedd y ffaith fod gynnau dŵr yn bygwth diogelwch y ddinas!
- Ynys Sant Kitts
Mae’n bosib fod rhai wedi clywed am helynt y rapiwr adnabyddus 50 Cent yn cael ei arestio am regi mewn gig a gynhaliodd ar yr ynys hon yn y Caribî yn ôl yn 2016. Yn wir, o dan Ddeddf Arwystlon Bach yr ynys, mae’n drosedd defnyddio iaith anweddus mewn unrhyw fan cyhoeddus a, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb yr iaith, mae’n bosibl i unigolion gael eu carcharu.
- Gwlad Thai, India ac Ynysoedd y Philipinau
Os ydych yn ysmygwr ac yn bwriadu teithio i un o’r gwledydd yma, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael unrhyw e-sigaréts adref, achos mae bellach yn drosedd i gario e-sigaréts i mewn i’r tair gwlad hon. Yn wir, mae Gwlad Thai wedi danfon un unigolyn i’r carchar am 10 mlynedd am geisio mewnforio e-sigaréts i’r wlad.