Llwyddo’n Lleol 2050 – Barn y Bobl

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 eisiau eich help chi i benderfynu pwy sy’n haeddu gwobr Barn y Bobl.

Mae Llwyddo’n Lleol yn brosiect sydd wedi cynnig cyfle arbennig i bobl 18–25 oed sy’n wreiddiol o Wynedd a Môn, i dderbyn £1000 a gwireddu cynllun 10 wythnos er mwyn datblygu syniad newydd. Mae criw arbennig wedi eu dewis ar gyfer y cynllun yma. Mae 14 ohonynt wedi bod yn gweithio’n tu hwnt o galed dros yr wythnosau diwethaf, ac yn parhau i wneud hynny rŵan, i ddwyn hadyn syniad yn gynllun busnes. Mae’r math o syniadau sydd ganddynt yn amrywio, o’r byd digidol, ffasiwn, bwyd, amaeth a chelfyddyd.

Barn y Bobl

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 eisiau eich help chi i benderfynu pa un o’r criw arbennig yma sy’n haeddu gwobr Barn y Bobl. Gwobr ychwanegol o £1000 yw’r wobr yma, a bydd y swm yn cael ei rannu’r rhwng y 3 sy’n dod i’r brig yn ôl barn y bobl.

Pwy sydd wedi denu eich sylw chi dros yr wythnosau diwethaf?

Pa un yw eich hoff syniad busnes?

Pwy sydd wedi eich adloni?

Cynnyrch neu wasanaeth pwy hoffech chi ei weld yn datblygu?

Mae’r 14 wedi bod yn cymryd rhan mewn heriau wythnosol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae’r cynnwys i gyd i’w gael ar dudalen Facebook Llwyddo’n Lleol. Ewch i sbecian ac atgoffa eich hun pwy ydy pwy!

Yn ogystal â’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol, mae aelodau ohonynt wedi cymryd rhan mewn podlediadau, wedi sgwrsio sawl tro ar BBC Radio Cymru, wedi dangos eu cynnyrch ar Heno, ac wedi rhannu eu teithiau trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu busnesau eu hunain, megis Facebook ac Instagram. Mae taith pob un wedi bod yn un gwerth ei dilyn, ond taith pwy sydd yn mynd â hi?

Huw-Jones

Huw Jones, Coedana
Ffermwr godro defaid sy’n gobeithio creu cynnyrch ysgytlaeth lleol gyda’r cynnyrch. Mae’r llaeth yma yn cynnwys dwbwl y protein o’i gymharu â llaeth buwch.

Cain Eleri Griffith

Cain Eleri Griffith, Mynytho
Therapydd Iaith a Lleferydd sydd ag angerdd mawr i ddatblygu busnes preifat er mwyn cynnig y wasanaeth i blant a phobl ifanc yr ardal.

Lleucu Gwenllian

Lleucu Gwenllian Williams, Blaenau Ffestiniog
Dylunwraig llawrydd dalentog yw Lleucu sydd eisiau datblygu stiwdio greadigol yng Ngogledd Cymru sy’n arbenigo mewn dylunio graffeg, animeiddio a darlunio.

Eurgain Sara Lloyd

Eurgain Sara Lloyd, Gwalchmai
Mae Eurgain am greu gwisgoedd nofio, dillad clwb nos neu ŵyl arbennig megis Maes B, mewn patrymau a steil abstract. Steil unigryw iawn i’r hyn sy’n gyfarwydd i ni yma yng Ngogledd Orllewin Cymru. @gwraidd

Tomos Huw Owen

Tomos Huw Owen, Saron
Mae Tom wedi sefydlu busnes smŵddis a jiwsus fresh, wedi ei ysbrydoli ar ôl cyfnod o deithio yn America.

Erin Thomas

Erin Thomas, Lerpwl (yn gobeithio dod adra i Wynedd)
Wedi cymhwyso yn ddiweddar fel hyfforddwraig Iechyd Meddwl, ac yn awyddus i gynnig ei chymorth a’i harbenigedd yn y Gymraeg, er mwyn helpu unigolion i ddarganfod hapusrwydd.

Mirain Pritchard

Mirain Pritchard, Rhosneigr
Busnes Pitsa Rhos sydd gan Mirain, yn defnyddio cynnyrch olrhainadwy, wedi ei hysbrydoli ar ôl dilyn cwrs Daearyddiaeth Bwyd a Diod o dan arweiniad Dr Eifiona Thomas Lane.

Sioned Young

Sioned Young, Caernarfon
Datblygu ei busnes Cardiau Mwydro i fod yn ffynhonnell o incwm sefydlog, gan gyflwyno syniadau newydd megis GIF’s Cymraeg, ac ymateb yr un pryd i’r galw cynyddol sydd wedi deillio yn ystod y cyfnod clo.

Siwan Williams

Siwan Fflur Williams, Tudweiliog
Mae Siwan wedi sefydlu busnes ‘Gemwaith Gwyndy’ o’i hystafell wely yn ystod y cyfnod clo, er mwyn cadw’n brysur a phrofi rhywbeth newydd yn ystod cyfnod mor rhyfedd.

Lois Jones

Lois Angharad Jones, Pentrefelin
Cynhyrchu, gwerthu a hyrwyddo brand Cymraeg o Sôs Coch gan ddefnyddio cynnyrch Cymraeg lleol yw bwriad Lois.

Ifan Wyn

Ifan Wyn Erfyl Jones, Llanfairpwll
Mae Ifan wedi adnabod potensial i greu hwb digidol er mwyn hyrwyddo busnesau lleol ac unigolion hunan gyflogedig. Rhywbeth tebyg i JustEat, ond ar gyfer busnesau a gwasanaethau lleol.

Anna Kinnibrugh

Anna Kinnibrugh, Garndolbenmaen
Archwilio i ddatblygu cyfres o ddiwrnodiau agored i ddysgwyr a theuluoedd bregus mae Anna, fel rhaglen estynedig gymunedol i Gwarchodfa Cyf, sef busnes a chartref teulu Anna.

Osian Wyn Owen

Osian Wyn Owen, Caernarfon
Ei amcan yw teilwra pecyn marchnata i fusnesau, cymunedau, cynghorau lleol ayyb, drwy gyfuno ei dalent yn ysgrifennu’n greadigol er mwyn mynd i’r afael â ffordd newydd o fasnachu.

Mirain Rhys

Mirain Rhys, Bala
Mae Mirain wedi sefydlu busnes ‘Hey Soul Stitcher’ yn ystod y cyfnod clo er mwyn sicrhau incwm, yn creu scrunchies, bandiau gwallt, a brodwaith allan o ddefnyddiau cynaliadwy.

Felly, pwy o’r rhain sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnoch chi? Dilynwch eu cyfrifon, ewch i fusnesu ar eu gwefannau, sgroliwch drwy’r wledd o gynnwys sydd ar gael ar dudalen Facebook Llwyddo’n Lleol… ac yna, pleidleisiwch!

 

Dweud eich dweud