Sgowtiaid America
Mae symudiad y Sgowtiaid yn America wedi datgan ei barodrwydd i ddod a gwaharddiad ar aelodau ac arweinwyr hoyw i ben ar ôl ton o brotestiadau.
Os caiff ei gymeradwyo gan fwrdd cenedlaethol y Sgowtiaid, byddai’r newid yn garreg filltir bwysig i’r mudiad hawliau hoywon yn America – yn dilyn chwydd yn y gefnogaeth i briodasau cyfartal a diwedd ar waharddiad ar hoywon agored yn gwasanaethu yn y fyddin.
O dan y newid arfaethedig, byddai grwpiau unigol y Sgowtiaid yn gallu penderfynu drostynt eu hunain beth hoffen nhw ei wneud – naill ai cynnal y gwaharddiad, fel sy’n ofynnol gan bob grŵp ar hyn o bryd, neu ganiatáu aelodau hoyw.
Mae arweinwyr y Bedyddwyr yn y de – sy’n ystyried gwrywgydiaeth yn bechod – yn gynddeiriog am y newid posibl ac maen nhw wedi dweud y gallai’r newid annog eglwysi i gefnogi sefydliadau eraill.
Mae Bedyddwyr y De ymhlith y noddwyr mwyaf o grwpiau’r Sgowtiaid, ynghyd â’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr Eglwys Formonaidd a’r Eglwys Fethodistaidd.
Ond er y newid posib i ganiatáu hoywon, does dim cynlluniau tebyg i newid polisi ar gyfer anffyddwyr a bydd y symudiad yn parhau i weld ‘Dyletswydd i Dduw’ fel un o’i egwyddorion sylfaenol.
Un rheswm am y newid yw ymgyrchoedd sydd wedi bod ar y wefan Change.org. Mae cwmni UPS a gwneuthurwyr cyffuriau Merck wedi cyhoeddi eu bod yn atal rhoddion gan eu sefydliadau elusennol i’r Sgowtiaid tra bod y polisi mewn grym.