Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi dweud bod yn rhaid i America newid er mwyn diogelu’r plant yno.

Roedd Barack Obama yn annerch gwasanaeth i gofio’r rhai gafodd eu lladd yn y gyflafan mewn ysgol gynradd yn Newtown, Connecticut ddydd Gwener. Cafodd 20 o blant eu saethu’n farw yn Ysgol Sandy Hook, a chwe oedolyn.

Roedd y dyn arfog fu’n gyfrifol am y gyflafan, Adam Lanza, wedi  saethu ei hun yn farw pan gyrhaeddodd yr heddlu. Cafodd ei fam, Nancy, 52 oed, ei darganfod yn farw yn eu cartref. Roedd wedi ei saethu pedair gwaith yn ei phen.

Dywedodd yr awdurdodau ddoe bod gan Adam Lanza ddigon o fwledi i ladd  pob un plentyn yn yr ysgol.

Mae ’na alw unwaith eto am reoli’r defnydd o ynnau yn sgil y digwyddiad.

Dywedodd Barack Obama y byddai’n gwneud popeth yn ei allu i geisio osgoi trasiedi arall o’r fath.