Llun: AP Photo/Newtown Bee, Shannon Hicks
Mae adroddiadau bod 27 o bobol wedi cael eu saethu’n farw mewn ymosodiad arfog ar ysgol yn yr Unol Daleithiau

Mae 18 o blant ymhlith y meirw medd swyddogion.

Digwyddodd y saethu yn ysgol Sandy Hook yn Newtown, tua 60 milltir i’r gogledd o ddinas Efrog Newydd, yn nhalaith Connecticut.

Mae’r Arlywydd Obama yn derbyn adroddiadau cyson am yr hyn ddigwyddodd meddai llefarydd yn y Tŷ Gwyn, Jay Carney.