Bydd trigolion Catalonia yn pleidleisio mewn etholiadau rhanbarthol heddiw.

Mae’r ymgyrch etholiadol wedi canolbwyntio ar annibyniaeth ac mae disgwyl i’r partïon cenedlaethol fod yn llwyddiannus yn yr etholiadau.

Mae’r cenedlaetholwyr wedi bod yn galw am refferendwm er mwyn i Gatalonia ennill ei hannibyniaeth.

Mae Arlywydd Catalonia, Artur Mas, wedi dweud y byddai’n fanteisiol i Gatalonia fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn hytrach na bod yn rhanbarth o Sbaen.

Mae’r mudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu am annibyniaeth i Wlad y Basg, Eta, wedi datgan ei bod yn barod i roi ei arfau o’r neilltu ac i drafod efo llywodraethau Ffrainc a Sbaen.