Mae o leia’ 112 o bobl wedi cael eu lladd wrth i dân ffyrnig rwygo drwy ffatri gwneud dillad ym Mangladesh.

Yn ôl swyddog tân lleol, anafwyd 12 o bobl wrth iddyn nhw neidio o’r adeilad er mwyn osgoi’r tân. Mi fydd nifer y rhai sydd wedi marw yn codi gan eu bod nhw’n parhau i chwilio trwy’r adeilad, ychwanegodd.

Roedd y ffatri saith llawr wedi ei lleoli ar gyrion prifddinas Bangladesh, Dhaka. Mae 4,000 o ffatrïoedd yn y wlad yn cynhyrchu dillad ar gyfer enwau cyfarwydd fel H&M, Marks & Spencer, a Tesco.

Doedd dim allanfeydd argyfwng yn y ffatri. Mi gafodd 69 o gyrff eu darganfod ar ail lawr yr adeilad.