Aung San Suu Kyi
Ar ei ymweliad hanesyddol a Burma, mae’r Arlywydd Barack Obama wedi rhoi addewid y bydd rhagor o gymorth ar gael gan yr UDA os yw’r wlad yn parhau gyda’i diwygiadau i  sefydlu democratiaeth newydd.

“Ein nod yw cynnal y momentwm,” meddai Obama, yr arweinydd cyntaf o’r Unol Daleithiau i ymweld â Burma.

Roedd degau o filoedd o bobl wedi ymgynnull ar strydoedd y brifddinas Rangoon er mwyn gweld yr Arlywydd.

Dywedodd ei fod wedi gweld arwyddion calonogol yn y wlad dros y flwyddyn ddiweddaf.  Roedd hynny’n cynnwys rhyddhau arweinydd y blaid ddemocrataidd Aung San Suu Kyi a oedd wedi cael ei chyfyngu i’w thŷ am 15 mlynedd cyn cael ei rhyddhau yn 2010. Cafodd ei hethol i’r senedd eleni.

“Rydyn ni’n hyderus y bydd y cymorth yma yn parhau yn ystod y blynyddoedd anodd sydd o’n blaenau,” meddai Aung San Suu Kyi.

Ar ôl blynyddoedd o gael ei hynysu oherwydd ei llywodraeth filwrol ormesol, fe ddechreuodd Burma ei thrawsnewidiad y llynedd.

Ar ôl cwrdd â’r Arlywydd Thein Sein, fu’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r camau diweddaraf tuag at ddemocratiaeth, dywedodd Barack Obama y gallai arwain at ryddhau “potensial anhygoel y wlad brydferth hon.”

Fe fydd Obama hefyd yn ymweld â Thailand a Cambodia yn ystod ei daith i Asia.