Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi bod yn annerch ei gefnogwyr bore ma ar ol cael ei ethol am bedair blynedd arall.

Gyda’i wraig Michelle yn wên o glust i glust, a’i ferched Malia a Sasha o bobtu iddo, fel gamodd Obama i’r ddarllenfa yn Chicago, Illinois, i gyfeiliant cân Stevie Wonder, ‘Signed, Sealed, Delivered, I’m Yours’.

Roedd golwg o ryddhad ar ei wyneb ar ôl wythnosau o ymgyrchu caled, ac roedd y gri “Pedair blynedd arall, pedair blynedd arall!” yn adleisio o gwmpas yr ystafell.

Fe siaradodd am 25 munud, gydag un neges ganolog yn cael ei thanlinellu: “Mae’r gorau eto i ddod, ond mae ganddon ni waith i’w wneud.”

Romney’n llongyfarch Obama

Ym mhencadlys ei ymgyrch yn Boston, Massachusetts, mae’r Llywodraethwr Mitt Romney wedi annerch llond ystafell o ffyddloniaid y blaid Weriniaethol, gan ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth, a llongyfarch yr Arlywydd Obama ar ei fuddugoliaeth.

“Diolch i chi, ffrindiau, diolch yn fawr iawn,” meddai. “Rydw i newydd ffonio’r Arlywydd Obama i’w longyfarch ar ei fuddugoliaeth. Mae ei gefnogwyr a’i ymgyrchwyr hefyd yn haeddu ein llongyfarchiadau.

“Rydw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw i gyd, ond yn enwedig yr arlywydd, ei wraig a’i ferched. Mae hon yn adeg o heriau mawr i America, a dw i’n gweddïo y bydd yr arlywydd yn llwyddiannus wrth arwain ein cenedl.”

Fe ddiolchodd Mitt Romney i’w gyd-ymgyrchydd, Paul Ryan, gan ddweud y byddai’n parhau i ddefnyddio “ei ddeallusrwydd a’i waith caled a’i ymrwymiad i egwyddor” er budd y genedl. Ac, ar ôl talu teyrnged i’w wraig, Ann, a’i deulu am eu cefnogaeth hwythau, diolchodd i’r tim ymgyrchu am eu “hymdrech anhygoel” dros y wlad y mae’n ei charu.

Y ras

Roedd hi wedi bod yn agos iawn yn y ras am y Ty Gwyn, nes y dechreuodd rhai taleithiau allweddol wyro o blaid Barack Obama.

Roedd Mitt Romney ar y blaen o 159 pleidlais etholiadol i 147, pan oedd rhai sylwebwyr yn darogan canlyniadau 32 o’r taleithiau. Ond fe aeth Barack Obama â hi yn New Hampshire ac fe ddaliodd ei afael yn Wisconsin, tra’r oedd y saith talaith allweddol arall yn dal i gyfri’ pleidleisiau.

Roedd Mitt Romney ar y blaen yn y bleidlais boblogaidd hefyd – gyda 25.2 miliwn, neu 50%. 24.2 miliwn o bleidleisiau oedd gan Barack Obama ar y pwynt hwnnw, neu 48%.

Dyna pam fod y taleithiau hynny sydd ddim yn arddel unrhyw ffyddlondeb pleidiol, mor bwysig. Ar lefel taleithiol y mae’r etholiad yn cael ei ennill, nid ar nifer y pleidleisiau unigol.

Ohio oedd un o’r taleithiau allweddol hynny. Roedd arolwg o bleidleiswyr wrth iddyn nhw adael y bythau, yn cadarnhau mai’r economi oedd yr un mater ar flaen eu meddyliau.

Yna daeth canlyniadau Fflorida, Gogledd Carolina, Virginia, a New Hampshire; ac yna, o’r gorllewin, Wisconsin, Iowa; cyn daeth Colorado a Nevada o’r canolbarth.

Fe fu Barack Obama yn chwarae pêl-fasged mewn campfa ger ei gartre’ yn Chicago tra’n aros i etholwyr fwrw eu pleidleisiau. Fe dreuliodd Mitt Romney y diwrnod gyda’i deulu yn Boston.