Corwynt o'r gofod
Mae corwynt Sandy yn debygol o daro yr UDA yfory ar ôl achosi difrod sydd wedi lladd 60 o bobl ar ynysoedd Haiti, Ciwba, Gweriniaeth Dominica, Jamaica a’r Bahamas.

Mae’r corwynt yn cyfuno efo storm aeafol gyffredin yn ôl y proffwydi tywydd gan greu yr hyn mae nhw wedi ei ddisgrifio fel ‘Frankenstorm’.

Bydd y corwynt yn taro arfodir gorllewinol yr Unol Daleithau yfory ac mae’n debyg o effeithio ar 60 miliwn o Americanwyr wrth groesi taleithau Carolina, Virginia, Pennsylvania, New Jersey cyn cyrraedd Efrog Newydd.

“Nid bygythiad i’r ardaloedd arfordirol yn unig fydd hyn,” meddai Craig Fugate, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Ffederal Rheoli Argyfyngau. “Mae’r storm yn mynd i gael effaith ar ardal eang iawn.”

Mae’r storm yn sicr o amharu ar drefniadau’r ymgeiswyr yn yr etholiad i ddewis Arlywydd nesa’r UDA.

Mae’r Arlywydd Obama wedi canslo ymweliad i Virginia dydd Llun a rali yn Colorado dydd Mawrth a’r ymgeisydd Gweriniaethol, Mitt Romney wedi canslo digwyddiad yn Virginia heddiw gan deithio yn hytrach i Ohio.