Mae saith o bobl – chwech o wyddonwyr a chyn-swyddog Llywodraeth yr Eidal – wedi cael dedfryd o chwe blynedd yr un yn y carchar ar ôl i lys eu cael yn euog o ddynladdiad mewn perthynas â daeargryn yn L’Aquila yn 2009.

Cawson nhw eu cyhuddo o ddynladdiad ar ôl i 309 o bobl gael eu lladd yn dilyn y trychineb.

Roedd yr erlynwyr wedi honni bod y saith wedi gwneud cyhoeddiadau camarweiniol cyn i’r daeargryn, oedd yn mesur 6.3 ar raddfa Richter, daro’r ddinas.

Roedd mwy na 5,000 o wyddonwyr wedi datgan eu cefnogaeth i’r saith mewn llythyr agored i Arlywydd yr Eidal, Giorgio Napolitano.

Cyfaddefodd yr erlynwyr yn ystod yr achos nad oedd modd darogan y byddai’r daeargryn yn digwydd, ond y dylai trigolion yr ardal fod wedi derbyn rhybudd.

Roedd y saith yn aelodau o banel ymchwilio’r daeargryn yn dilyn y digwyddiad.

Cyhoeddodd y panel wythnos cyn y daeargryn nad oedd hi’n bosib darogan a fyddai’r daeargryn yn digwydd, ond nad oedd rheswm i boeni.

Fe wnaethon nhw awgrymu y dylai adeiladau gael eu hatgyfnerthu rhag ofn y byddai’r daeargryn yn taro.

Roedd yr amddiffynwyr wedi dadlau bod y cyhuddiadau’n debyg i “gyfreithiau troseddol canoloesol”.