Lakhdar Brahimi
Mae cynrychiolydd heddwch y Deyrnas Unedig a’r Gynghrair Arabaidd, Lakhdar Brahimi, wedi cyfarfod ag Arlywydd Al-Assad o Syria.

Mae Mr Brahimi yn ceisio dwyn perswâd ar Lywodraeth Syria, a’r gwrthryfelwyr, i gynnal cadoediad yn ystod yr ŵyl Foslemaidd, Eid al-Adha.

Mae’r wlad mewn stad o argyfwng. Bu brwydro ffyrnig ar y ffordd rhwng Damascus ac Aleppo ddoe, yn arbennig yn nhref Maarat al-Numan, ac mae adroddiadau heddiw fod nifer o bobol wedi cael eu lladd mewn ffrwydrad mewn ardal Gristnogol o Ddamascus.