Gaddafi'n bygwth ar Deledu Libya
Fe fydd mwy’n cael ei wneud i geisio dod â dinasyddion gwledydd Prydain yn ôl o Libya, wrth i’r Cyrnol Gaddafi addo ymladd hyd at “y diferyn ola’ o waed” yn erbyn y protestwyr yno.
Fe fu’r unben ar deledu Libya neithiwr yn galw ar ei gefnogwyr i fynd ar y strydoedd i ymladd ac yn dweud y byddai’n fodlon marw’n ferthyr.
Oherwydd y peryg, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, eu bod yn ceisio cael hawl i lanio awyren ac anfon llong i’r wlad i ddod â phobol oddi yno.
Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn anfon llong fferi i Libya i achub eu dinasyddion nhw wrth i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gondemnio’r trais sydd wedi lladd cannoedd o bobol.
Fe alwodd y Cyngor am ddiwedd ar y lladd ac ar i’r Cyrnol Gaddafi wrando ar “gwynion cyfreithlon” ei bobol.
Cefnogwyr yn troi cefn
Yn y cyfamser, mae rhagor o weinidogion a diplomyddion wedi troi cefn ar Muammar Gaddafi, gan gynnwys un o’i hen gefnogwyr, y Gweinidog Materion Mewnol.
Fe ddywedodd Abdul Fattah Younis ei fod wedi ymddiswyddo ar ôl ‘Chwyldro Chwefror 17’, gan ddilyn y Gweinidog Cyfiawnder a oedd wedi beirniadu ymateb Gaddafi.
Mae adroddiadau hefyd bod rhai penaethiaid milwrol a rhai o lwythau cryfa’r wlad wedi troi cefn ar y Cyrnol ac ymuno gyda’r protestwyr.
Lluoedd diogelwch yn allweddol
Yn ôl un arbenigwr ar y gwledydd Arabaidd, fe fydd ymateb y lluoedd diogelwch yn allweddol. Mae tua 15,000 o filwyr yn atebol i’r Arlywydd ei hun.
Yn ôl Imad El-Anis o Brifysgol Nottingham Trent, mae Gaddafi eisoes wedi colli rheolaeth ar lawer o ddwyrain y wlad.
“Mae wedi dweud y bydd yn ymladd hyd at y diwedd,” meddai. “Dw i’n siŵr y bydd hynny’n digwydd, ond fe fydd y diwedd yn dod.”