Mae Cymro o Sir Benfro wedi bod yn disgrifio effeithiau’r daeargryn mawr sydd wedi lladd o leia’ 65 o bobol yn Seland Newydd.

Mae hyd at 250 o bobol yn dal i fod yn gaeth yn y rwbel yn ail ddinas fwya’r wlad, Christchurch, lle trawodd y trychineb tuag amser cinio.

Mae wedi cael ei fesur ar 6.3 ar raddfa Richter ac roedd ei ganolbwynt tua chwe milltir o ganol y ddinas, y fwya’ yn yr Ynys Ddeheuol.

Fe gafodd adeiladau eu chwalu, fe gwympodd meindwr yr eglwys gadeiriol ac mae’r gwasanaethau achub wedi methu â chyrraedd pob galwad.

Cymro’n disgrifio’r distryw

“Fe ddechreuodd popeth ysgwyd ac fe aeth yn fwy a mwy ffyrnig,” meddai Barnaby Luck, 29 oed, o Hwlffordd, a oedd yn aros mewn hostel yn y ddinas.

“Roedd hi fel petai rhywun wedi gafael yn yr adeilad ac yn ei siglo yn ôl ac ymlaen. Ond dim ond pan es i mas i’r stryd y sylweddolais i pa mor ddrwg oedd pethau.

“Roedd talcen un adeilad wedi cwympo’n llwyr ac, wrth i fi fynd i ganol y ddinas, roedd yna ddistryw llwyr ymhobman. Roedd un adeilad pedwar llawr wedi ei chwalu’n llwyr.

“Roedd pobol yn cerdded o gwmpas gydag anafiadau ac roedd canolfan feddygol yn cael ei sefydlu yn un o’r parciau. Roedd hi’n anhrefn gyda heddlu, hofrenyddion a diffoddwyr tân.”

Yr ail ddaeargryn o fewn chwe mis

Dyma’r ail dro o fewn chwe mis i ddaeargryn daro’r ddinas o 350,000 o bobol; roedd yr un ym mis Medi wedi chwalu adeiladau tai ac achosi gwerth tua £4 biliwn o ddifrod.

Er bod hwnnw’n gryfach ac yn fwy na 7 ar raddfa Richter, roedd wedi taro ynghanol nos – y tro yma roedd miloedd o bobol allan ar y strydoedd yn siopa a chael eu cinio.

Gwahaniaeth arall oedd bod y daeargryn hwn yn gymharol agos at yr wyneb ac mae dŵr wedi cael ei wthio i fyny o’r ddaear gan achosi llifogydd hefyd.

Mae stad o argyfwng wedi ei gyhoeddi a rhai o’r cleifion gwaetha’n cael eu hedfan i brifddinas Seland Newydd yn Auckland.