Y Cyrnol Gaddafi
Mae adroddiadau bod ymladd yn parhau ym mhrifddinas Libya wrth i luoedd y Cyrnol Gaddafi droi ar brotestwyr.

Mae amheuaeth bod cannoedd o bobol wedi cael eu lladd mewn chwe diwrnod o wrthdystio, yn benna’ yn ail ddinas fwya’r wlad, Benghazi.

Ond dros y Sul, fe ledodd y gweithredu i Tripoli hefyd gan fygwth dyfodol yr arweinydd ei hun, ar ôl 42 o flynyddoedd yn unben yno.

Mae mab y Cyrnol ei hun wedi awgrymu bod y Llywodraeth wedi colli rheolaeth tros rannau o’r wlad.

Er bod adroddiadau newyddion o Libya’n brin, mae gwasanaethau fel Al Jazeera’n derbyn negeseuon gan bobol yn y wlad ac mae’r rheiny’n sôn am ymosodiadau gan filwyr personol y Cyrnol Gaddafi wrth iddyn nhw geisio clirio’r Sgwâr Gwyrdd yng nghanol Tripoli.

Y mab yn bygwth

Neithiwr, fe aeth mab yr unben, Saif Gaddafi, ar y teledu i fygwth y protestwyr a dweud bod ei dad mewn grym a bod ganddo gefnogaeth y fyddin.

Roedd hefyd yn dweud y byddai’r gwrthdystiadau’n arwain at ryfel cartref ac y byddai hynny’n dinistrio cyfoeth olew Libya.

Yn Libya y mae’r llywodraeth wedi ymateb fwya’ chwyrn i’r protestiadau sydd wedi lledu trwy lawer o’r gwledydd Arabaidd yng ngogledd Affrica a’r Dwyrain Canol.

Geiriau Gaddafi

“Nid Tunisia neu’r Aifft ydyn ni,” meddai Saif Gaddafi. “Mae Muammar Gaddafi, ein harweinydd, yn arwain y frwydr yn Tripoli a r’yn ni gydag ef.

“Mae’r lluoedd arfog gydag ef. Mae degau o filoedd ar eu ffordd yma i fod gydag ef. Fe fyddwn yn ymladd hyd y dyn olaf, y fenyw olaf, y fwled olaf.”