Un o'r merched mewn ysbyty leol
Mae o leiaf wyth o ferched wedi marw a thua saith arall wedi eu hanfu ar ôl i awyrennau NATO gynnal cyrch yn y mynyddoedd yn nhalaith Laghman yn nwyrain Affganistan.

Mae rhai o’r merched sydd wedi cael eu hanafu yn 10 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran NATO mai ymosod ar wrthryfelwyr oedd y bwriad.

“Mae Isaf (y lluoedd rhyngwladol) yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf i’r cymunedau a’r teuluoedd sydd wedi diodde ac hefyd i drigolion Affganistan yn dilyn y colli gwaed trist yma,” meddai.

Ychwanegodd bod yr awyrennau yn ceisio taro criw o hyd at 45 o wrthryfelwyr mewn ardal fynyddig goediog sydd ddim dan reolaeth llywodraeth Affganistan ac felly yn ddeniadol iawn i’r Taliban a gwrthyfelwyr eraill.

Yn ôl llywodraethwr Laghman, roedd criw o bobl gyffredin, y rhan fwyaf yn ferched, wedi mynd i’r mynyddoedd i gasglu coed a chnau yn nyffryn Noarlam Saib pan ddigwyddodd yr ymosodiad. Ychwanegodd bod casglu ffrwythau’r coed yn hen arferiad yn yr ardal.

Mae lladd pobl gyffredin gan y cynghreiriad yn achos tensiwn rhwng yr Undol Daleithau a Llywydd Affganistan, Hamid Karzai er bod y niferoedd wedi gostwng eleni.

Gwrthryfelwyr yn lladd lluoedd NATO

Mae yna ragor hefyd o achosion o filwyr a phlismyn Affganistan yn lladd milwyr y cyngrheiriaid.

Lladdwyd dau filwr o Brydain a phedwar milwr o’r Unol Daleithau mewn dau ymosodiad gwahanol gan ddynion yn gwisgo lifrau heddlu Affganistan a militia’r wlad.

Cafodd y ddau filwr o Brydain eu saethu’n farw mewn man archwilio gan ddyn yn gwisgo lifrai byddin Affganistan ac fe laddwyd pedwar Americanwr gan blismon efo llu Affganistan mewn man archwilio diarffordd.

Digwyddodd yr ymosodiadau i gyd yn ne’r wlad. Lladdwyd dau aelod o 3ydd Bataliwn Catrawd Swydd Gaer i’r de o Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ac fe laddwyd yr Americanwyr yn nhalaith Zabul.

Mae nifer o filwyr wedi cael eu hanafu hefyd yn yr ymosodiad yn Zabul.

Hyd yma mae 51 o aelodau lluoedd rhyngwladol wedi cael eu lladd gan ddynion yn gwisgo lifrau un o luoeodd diogelwch Affganistan. Lladdwyd 15 yn ystod mis Awst.

Dywed yr awdurdodau yn Affganistan bod rhai o’r ymosodiadau wedi eu gwneud gan aelodau o’r Taliban mewn gwisg plismyn neu filwyr ond does dim dwywaith bod aelodau swyddogol o’r lluoedd hefyd wedi ymosod ar eu cyd-weithwyr o’r lluoedd rhyngwladol.