Yr Arlywydd Assad
Mae llysgennad heddwch y Cenhedloedd Unedig i Syria wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf efo Arlywydd y wlad, Bashar al-Assad.

Does dim rhagor o fanylion am y trafodaethau yn Damascus ond mae’r llysgennad Lakhdar Brahimi wedi dweud bod sicrhau heddwch yn Syria yn dasg “sydd bron a bod yn amhosibl.”

Ychwanegodd bod y colli gwaed yno yn anhygoel a’r dinistr yn drychinebus.

Fe wnaeth Lakhdar Brahimi olynu Kofi Annan fel llysgennad bythefnos yn ôl gan gyfarfod cynrychiolydd cydnabyddedig yr wrthblaid ddoe.