Becky O'Connell
Mae mam merch naw oed a gafodd ei herwgipio, ei threisio a’i lladd 22 mlynedd yn ôl yn ceisio codi arian er mwyn gweld ei llofrudd yn cael ei ddienyddio.

Dywedodd Tina Curl ei bod hi’n edrych ymlaen at weld Donald Moller yn cymryd ei anadl olaf, gan ei fod ef wedi gweld ei merch hi’n marw.

Symudodd Tina Curl i fyw yn Lake Luzerne, Efrog Newydd, yn fuan wedi marwolaeth ei merch Becky O’Connell ym mis Mai 1990.

Mae’n gobeithio y bydd yr arian o gymorth iddi fynd yn ôl i dalaith South Dekota er mwyn gweld y dienyddiad.

Mae’r fam wedi dioddef o alcoholiaeth ers llofruddiaeth ei merch, ac wedi cael trawiad ar y galon. Dywedodd nad oedd ganddi’r arian i dalu am y daith.

Roedd hi’n cael $720 mewn budd-daliadau ond doedd hynny ddim yn ddigon i ariannu’r daith 1,400 milltir i South Dekota, meddai.