Damascus
Mae un o’r sianeli teledu sy’n cefnogi llywodraeth Syria wedi dweud bod pedwar o’u gweithwyr wedi cael eu herwgipio wrth ffilmio yn y brifddinas.

Dywedodd Imad Sarah, rheolwr cyffredinol gorsaf Al-Ikhbariya, bod y pedwar wedi eu cipio gan grŵp arfog ym maestref al-Tal i’r gogledd o Ddamascus.

Mae byddin y llywodraeth a gwrthryfelwyr sy’n benderfynol o ddymchwel gweinyddiaeth yr Arlywydd Bashar Assad wedi bod yn brwydro yn yr ardal.

Dywedodd Al-Ikhbariya a sianelu teledu eraill sy’n cefnogi’r llywodraeth bod eu gweithwyr wedi dioddef ymosodiadau cyson yn yr 17 mis ers dechrau’r gwrthryfel yn y wlad.

Ffrwydrwyd bom ym mhencadlys teledu gwladwriaeth Syria yn Damascus yr wythnos yma, gan anafu nifer o weithwyr.