Mae o leiaf 11 o bobl wedi eu lladd a 25 wedi eu hanafu ar ôl i fws wyro oddi ar y ffordd a glanio mewn afon yn Nepal, meddai’r heddlu.

Mae’n debyg bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth o’r bws wrth deithio i  Katmandu. Roedd y bws wedi syrthio 160 troedfedd i Afon Trishuli.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 50 milltir i’r dwyrain o Katmandu.