Enrique Pena Nieto
Ym Mecsico, mae plaid Enrique Pena Nieto fu mewn grym hyd at 12 mlynedd yn ôl, yn hawlio buddugoliaeth yn yr etholiad arlywyddol.

Ond mae’r ymgeisydd sydd wedi dod yn ail, Andres Manuel Lopez Obrador, wedi gwrthod derbyn y canlyniad nes bod y pleidleisiau i gyd wedi cael eu cyfrif.

Mae’r Sefydliad Etholaethol Ffederal wedi cyhoeddi bod  plaid Enrique Pena Nieto, yr Institutional Revolutionary Party neu PRI, wedi ennill 38% o’r bleidlais.

Roedd y blaid wedi colli’r etholiad yn 2000 ar ôl 71 mlynedd mewn grym. Cafodd y blaid ei chyhuddo o fod yn llwgr  a gormesol.

Mae Andres Manuel Lopez Obrador o’r blaid Democratic Revolution Party wedi ennill 31% o’r bleidlais, a Josefina Vazquez Mota o’r National Action Party sy’n llywodraethu ar hyn o bryd, 25% o’r pleidleisiau.

Dywedodd Enrique Pena Nieto, 45, fod ei blaid wedi cael “ail gyfle” ac na fydd yn dychwelyd i drefn y gorffennol. Mae wedi addo llywodraeth ddemocrataidd, fodern a fydd yn agored i feirniadaeth.