Roedd awyren Manx2 chwalodd ym Maes Awyr Corc gan ladd chwech o bobol ddydd Iau wedi derbyn archwiliad cynnal a chadw’r wythnos diwethaf, meddai’r cwmni.

Dywedodd cadeirydd y cwmni Manx2, sydd hefyd yn darparu gwasanaeth Caerdydd i Ynys Môn, ei fod yn gwbl ffyddiog bod y peilotiaid fu farw yn gymwys i hedfan.

Trodd yr awyren drosodd cyn mynd ar dân wrth geisio glanio mewn niwl trwchus bore dydd Iau.

“Mae’r 24 awr ddiwethaf wedi bod yn amser tywyll ac anodd ond dw i’n siŵr ei fod yn amser hyd yn oed yn anoddach i deuluoedd y rhai a fu farw,” meddai Noel Hayes.

Fe ail agorodd Maes Awyr Corc bore ma am y tro cyntaf yn dilyn y trychineb.

Roedd y llain lanio wedi bod ar gau ers tua 36 awr wrth i ymchwilwyr astudio man y ddamwain a symud gweddillion yr awyren.

Roedd y meirw yn cynnwys y ddau beilot a hefyd cefnder Arlywydd Iwerddon, Mary McAleese.

Dywedodd y teulu fod Brendan McAleese, 39, dyn busnes o Swydd Tyrone, yn “ŵr bonheddig”.