Mae awyren wedi taro mynydd yn yr Himalaya, gan ladd 15 o bobl ac anafu chwech yn ddifrifol.
Digwyddodd y gwrthdrawiad wrth i’r awyren geisio glanio ym maes awyr mynyddig Jomsom yng ngogledd Nepal. Mae’r ardal yn gyrchfan poblogaidd gan gerddwyr a phererinion Hindŵaidd.
Roedd 16 o Indiaid a dau o Orllewinwyr ar fwrdd yr awyren, ac roedd y ddau beilot a chynorthwyydd yn dod o Nepal.
Dywedodd prif swyddog y llywodraeth yn yr ardal, Laxmi Raj, fod ymchwil cynnar yn awgrymu fod yr awyren wedi cael problemau technegol.
Nid oedd yn gallu dweud eto o ba wlad yn union y daw’r ddau Orllewinwr.