Mae Fine Gael, Fianna Fael a’r Blaid Werdd am dreulio’r 10 diwrnod nesaf yn perswadio eu haelodaeth i gefnogi bargen i ffurfio llywodraeth glymblaid newydd.

Ddoe (dydd Llun, Mehefin 15), cymeradwyodd y pleidiau seneddol y rhaglen lywodraethu.

Mae’r tri arweinydd – Leo Varadkar, Michéal Martin ac Eamon Ryan – wedi dod i gytundeb fwy na phedwar mis ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Chwefror.

Bydd y cytundeb, ar ôl bron i ddeufis o drafodaethau rhwng y pleidiau, yn awr yn cael ei gyflwyno i’r aelodau priodol ei gymeradwyo.

Er bod y rhan fwyaf o aelodau’r Blaid Werdd yn cefnogi’r drafft, gan gynnwys y Dirprwy Arweinydd Catherine Martin, roedd tri aelod wedi ymatal.

Dywed Simon Coveney, diprwy arweinydd Iwerddon, er bod y partïon yn wynebu “etholiad cyffredinol cystadleuol”, fod ganddyn nhw bellach “dempled newydd” ar gyfer y Llywodraeth.

“Mae gennym dair plaid sydd eisiau cydweithio ar lefel uwch ac mae’n rhaid i ni dreulio’r 10 neu 11 diwrnod nesaf nawr yn perswadio ein haelodaeth mai dyma’r peth iawn i’r wlad,” meddai wrth RTE Morning Ireland.

“Rwy’n credu, pan fydd pobl yn darllen y ddogfen hon, y byddan nhw’n cael llawer o sicrwydd bod hon yn dempled i gael y wlad yn ôl ar waith.

“Mae hon yn Lywodraeth a fydd yn rheoli cyllid cyhoeddus mewn ffordd gyfrifol, ond yn sicr dysgodd y gwersi o’r dirwasgiad diwethaf y bu’n rhaid i ni ddod allan ohonynt.”

Dywedodd Simon Coveney fod y Llywodraeth wedi dysgu “gwersi go iawn” am effaith Covid-19 ar system iechyd Iwerddon.

Ychwanega fod y wlad yn ymateb i’r her “yn llwyddiannus” ac y gall wneud hynny eto.

Cefnogaeth

Nawr bod y cytundeb yn ei le, mae angen ei gadarnhau gan aelodau llawr gwlad o bob plaid – fodd bynnag, mae gan bob plaid reolau gwahanol.

Mae angen cefnogaeth dwy ran o dair o aelodau’r Blaid Werdd gan ei 2,700 aelod – swm uwch na’r pleidiau eraill, sy’n golygu y gallai’r fargen gael ei chwalu eto gan fod rhai aelodau o’r Blaid Werdd ar lawr gwlad wedi mynegi pryderon am fynd i glymblaid gyda dau barti mawr ar y dde.

Mae Fianna Fáil angen mwyafrif syml o’i fwy na 15,000 o Aelodau.

Mae rhai wedi mynegi pryder am fynd i mewn i glymblaid gyda Fine Gael am y tro cyntaf ond mae disgwyl i aelodau’r blaid basio’r fargen.

Os caiff y cytundeb ei basio gan y gwahanol aelodaeth, disgwylir y bydd Llywodraeth newydd yn ei lle erbyn diwedd mis Mehefin neu wythnos gyntaf mis Gorffennaf.