Mae tair plaid – Fianna Fail, Fine Gael a’r Blaid Werdd – wedi cwblhau cytundeb i ffurfio llywodraeth nesaf Iwerddon.

Daw’r cyhoeddiad bedwar mis wedi etholiad cyffredinol Iwerddon fis Chwefror.

Bydd arweinydd Fianna Fail, Micheal Martin, ac arweinydd Fine Gael, Leo Varadkar, yn rhannu swydd y Taoiseach, gyda Micheal Martin yn cymryd y rôl am ddwy flynedd gyntaf y llywodraeth.

Dywed Leo Varadkar nad yw wedi penderfynu pa swydd fyddai’n ei chymryd yn y cabinet.

Ni fydd arweinydd y Blaid Werdd Eamon Ryan yn cymryd y swydd, ond mae’n bosib y gallai fod yn Tánaiste – dirprwy Taioseach.

Mae’r cytundeb, sy’n dod ar ôl dau fis o drafodaethau rhwng y pleidiau, nawr yn gorfod cael ei gymeradwyo gan eu timau seneddol, cyn cael ei gymeradwyo gan aelodaeth y pleidiau.

Bydd y cytundeb yn cael ei chyflwyno i’r pleidiau seneddol am 5:30 heddiw (dydd Llun Mehefin 22), ond mae’n debyg na fydd canlyniad pleidleisiau’r aelodaeth yn glir tan ddiwedd yr wythnos.

Mae drafft o’r rhaglen llywodraethol yn cynnwys cynllun cenedlaethol i adfer yr economi yn dilyn effaith pandemig y coronafeirws.

“Rydym yn wynebu heriau sy’n effeithio ar bob cymuned,” meddai’r ddogfen.

“Mae bywydau wedi cael eu colli a chalonnau wedi eu torri, ac mae ein bywydau a’n bywoliaethau wedi newid yn llwyr.

“Wrth uno gyda’n gilydd yn erbyn rhywbeth sy’n bygwth pob un ohonom, rydym wedi dangos ein bod yn gallu syfrdanu ein hunain, drwy addasu’n gyflym, creu partneriaid newydd a chydweithio mewn ffurf annisgwyl.

“Y cyfan er mwyn cyflawni nod cyffredin, ein dyfodol.”

Rheolau gwahanol

Bellach, gyda’r pleidiau wedi cwblhau cytundeb, mae’r rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y tair plaid.

Fodd bynnag, mae gan bob plaid reolau gwahanol.

Bydd angen i’r Blaid Werdd dderbyn cefnogaeth gan ddau draean o’u 2,700 o aelodau – sy’n uwch na’r pleidiau eraill

Mae hyn yn golygu y gallai’r cytundeb fethu gan fod rhai o aelodau’r Blaid Werdd yn ansicr ynglŷn â chreu clymblaid gyda dwy blaid sydd i’r dde o’r canol a’u hymrwymiad i leihau allyriadau carbon.

Mae ar Fianna Fail angen mwyafrif o’u 15,000 o aelodau i gymeradwyo’r cytundeb, ac er bod rhai o’u haelodau yn ansicr am ffurfio llywodraeth â Fine Gael am y tro cyntaf, mae disgwyl iddi basio.

Mae gan Fine Gael ar y llaw arall, system coleg etholiadol, sy’n rhoi mwy o bwysau i bledleisiau Teachtaí Dála (Aelodau Seneddol), Seneddwyr a Chynghorwyr nag aelodau’r blaid.

Os yw aelodaeth y tair plaid yn cymeradwyo’r cytundeb, mae disgwyl y bydd llywodraeth mewn grym erbyn diwedd mis Mehefin neu wythnos gyntaf Gorffennaf.

Cefndir

Mae Fianna Fáil, Fine Gael a’r Blaid Werdd wedi bod mewn trafodaethau i ffurfio llywodraeth yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar Chwefror 8 lle nad oedd plaid fwyafrifol.

Enillodd Fianna Fáil 38 o seddi tra’r oedd Sinn Fein ar 36, a Fine Gael ar 35.

Mae gan y Blaid Werdd 12 o seddi, tra bod y Blaid Lafur a’r Democratiaid Cymdeithasol â 6.

Er i Fianna Fáil golli wyth sedd â Fine Gael golli 12, mae’r ddwy blaid wedi gwrthod cynnal trafodaethau gyda Sinn Fein, a enillodd 15 sedd ychwanegol, cyfanswm o 36, gan ei gwneud hi’r ail blaid fwyaf yn Iwerddon.

Mae angen 80 o seddi i ffurfio llywodraeth fwyafrifol yn Iwerddon, ac ar y cyd mae gan Fianna Fáil a Fine Gael 73.

Gyda 12 sedd, y Blaid Werdd yw’r unig blaid all ymuno i ffurfio llywodraeth fwyafrifol heb orfod dibynnu ar aelodau annibynnol, y Blaid Lafur neu’r Democratiaid Cymdeithasol.